Yn eu cyfarfod ar 26 Ionawr 2021, cytunodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y cynnig i agor darpariaeth ddysgu ychwanegol newydd yn ffurfiol yn Ysgol Aberconwy ar gyfer dysgwyr oedran uwchradd ag awtistiaeth ac anawsterau niwroddatblygiadol cysylltiedig, ac i gyhoeddi'r cynnig drwy hysbysiad statudol.
Cyhoeddir yr hysbysiad statudol ddydd Llun 22 Chwefror ac yna mi fydd cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod. Dylid e-bostio unrhyw wrthwynebiadau at moderneiddo.ysgol@conwy.gov.uk neu drwy’s post i
Gwasanaethau Addysg,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN
Mae'r Adroddiad Ymgynghori sy'n crynhoi'r ymgynghoriad sy'n arwain at yr hysbysiad hwn ar gael isod.
Adroddiad Ymgynhori Chwefror 2021 (PDF)
Hysbyseb statudol - 22.02.21 (PDF)