Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn ofyniad statudol o’r Cwricwlwm i Gymru ac mae’n orfodol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed. Roedd yn arfer cael ei alw’n Addysg Grefyddol (AG) ac mae’n caniatáu i ddysgwyr archwilio ystyr posibl bywyd a’r gwerthoedd sy’n datblygu o gred. Cyflwynir Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yng nghyd-destun y Dyniaethau, a rhoddir cydnabyddiaeth i bwysigrwydd ffactorau daearyddol, hanesyddol ac economaidd drwy sefydlu systemau cred.
Dysgwch fwy am sut y caiff Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ei gyflwyno gan ysgolion sy’n cymryd rhan yng Nghonwy: