Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg


Summary (optional)
Cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg dros y 10 mlynedd nesaf
start content

Yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi a chyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

Mae ein strategaeth drafft 10 mlynedd yn dangos  sut yr ydym yn bwriadu datblygu a chynyddu darpariaeth y Gymraeg yn ein hysgolion. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod ein targedau fel bod ein holl ddisgyblion yn cael y cyfle i ddod yn hyderus ddwyieithog.

Y saith nod yw:

  1. Mwy o blant meithrin/plant 3 oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
  2. Mwy o blant dosbarth derbyn/plant 5 oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
  3. Mwy o blant i barhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i gam arall
  4. Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau a asesir yn y Gymraeg (fel pwng) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
  5. Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol
  6. Cynnydd yn y ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
  7. Cynnydd yn y nifer o staff addysgu sy'n gallu addysgu'r Gymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022 - 2032 (PDF)

end content