Dim ond os yw eich plentyn yn mynychu ysgol fabanod ar hyn o bryd ac y bydd angen symud i safle ysgol iau wahanol ym mis Medi 2027 y bydd angen i chi wneud cais am le yn yr Adran Iau (Blwyddyn 3).
Mae ffurflenni cais y gellir eu hargraffu ar gael a gellir anfon copi drwy'r post drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Addysg ar 01492 575031.
Pwysig: Yn ogystal â llenwi Ffurflen Derbyniadau i Ysgolion Conwy, bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen gwybodaeth atodol (FfGA) ar gyfer yr ysgol o'ch dewis cyntaf os yw eich dewis cyntaf yn un o’r ysgolion isod. Mae'r ffurflen FfGA hon, ar gael i'w lawrlwytho ar ôl cwblhau Ffurflen Derbyniadau i Ysgolion Conwy:
- Ysgol Bendigaid William Davies
- Ysgol Bodafon
- Ysgol Pen y Bryn
- Ysgol San Sior
- Ysgol St Joseph
- Ysgol Y Plas
Y dyddiadau cau ar gyfer y ceisiadau yw:
- Ceisiadau Meithrin: 15 Chwefror 2027
- Ceisiadau Derbyn ac Iau: 15 Ionawr 2027
Ni fydd cael lle yn y dosbarth Meithrin yn gwarantu lle yn y dosbarth Derbyn. Bydd angen i chi wneud cais eto am le yn y dosbarth Derbyn y flwyddyn nesaf.
Byddwch yn cael gwybodaeth ynglŷn â'ch cais am le yn yr ysgol erbyn:
- Ceisiadau Meithrin: 5 Mai 2027
- Ceisiadau Derbyn ac Iau: 16 Ebrill 2027
Ceisiadau hwyr: Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu i geisiadau a geir erbyn y dyddiad cau yn y lle cyntaf. Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried tan ar ôl y rhai a geir erbyn y dyddiad cau, oni bai eich bod yn gallu cyfiawnhau'r rheswm dros yr oedi wrth ddychwelyd eich ffurflen. Mae hyn yn unol â'r meini prawf a gyhoeddwyd pan fo mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael. Gall ceisiadau hwyr heb reswm da olygu siom os yw eich ysgol ddewisol yn llawn.
Ffurflenni cais y gellir eu hargraffu (fformat PDF):
Gellir anfon copi drwy'r post ar gais drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Addysg ar 01492 575031.
Dogfennau gwybodaeth ynglŷn â derbyniadau (fformat PDF):