Cyflwynwch eich ffurflen gais erbyn 3 Tachwedd 2025.
Fe gewch chi wybodaeth am eich cais am le yn yr ysgol erbyn 2 Mawrth 2026.
Fe allwch chi hefyd lawrlwytho fersiwn o'r ffurflenni y gellir eu hargraffu drwy glicio yma.
Ceisiadau hwyr
Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu i geisiadau a geir erbyn y dyddiad cau yn y lle cyntaf. Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried tan ar ôl y rhai a geir erbyn y dyddiad cau, oni bai eich bod yn gallu cyfiawnhau'r rheswm dros yr oedi wrth ddychwelyd eich ffurflen.
Mae hyn yn unol â'r meini prawf a gyhoeddwyd pan fo mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael. Gall ceisiadau hwyr heb reswm da olygu siom os yw eich ysgol ddewisol yn llawn.
Gwybodaeth Bwysig
Nodwch os byddwch yn ceisio am le yn unrhyw un o’r ysgolion canlynol:
- Ysgol Bryn Elian,
- Ysgol Eirias, neu
- Ysgol Emrys ap Iwan
yn ogystal â llenwi’r Ffurflen Derbyniadau Ysgolion, bydd angen i chi gysylltu â’r ysgol rydych yn ei ffafrio yn uniongyrchol i gael ffurflen gais.
Dyddiadau Pwysig
Erbyn 1 Medi 2025
- Bydd ffurflenni cais ysgolion yn cael eu cyhoeddi a cheisiadau ar-lein yn agor
- Mae ffurflenni y gellir eu hargraffu ar gael uchod a gellir postio copïau caled ar gais, drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Addysg ar 01492 575031
- Mae llyfrynnau ar sut i wneud cais ar gael uchod
Erbyn 3 Tachwedd 2025
- Dyddiad cau ar gyfer pob cais i Ysgol Uwchradd
Erbyn 2 Mawrth 2026
- Bydd llythyrau yn cynnig neu'n gwrthod lle yn cael eu hanfon allan