Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Deall Data Perfformiad Ysgol – Uwchradd (Hyfforddiant Gorfodol


Summary (optional)
start content

Manylion y cwrs:

DyddiadAmser LleoliadHyfforddwrGrŵp Targed
05.12.19 6.00yh i 8.00yh Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst   Pob Llywodraethwr
23.04.20 6.00yh i 8.00yh Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst   Pob Llywodraethwr

*Gwasanaethau cyfieithu ar gael

Modiwl eDdysgu ar gyfer llywodraethwyr ysgolion uwchradd

Nod Cwrs:

  • Gallu defnyddio data i asesu perfformiad ysgol.

Y feirniadaeth gyffredin gan dimau arolygu Estyn yw nad oes digon o dystiolaeth o 'her' gan gyrff llywodraethol a fawr dystiolaeth o fod yn 'ffrind beirniadol'. Mae defnydd effeithiol o ddata a gwybodaeth ysgol i ofyn cwestiynau yn sgil pwysig mae’n rhaid i bob llywodraethwr ei feistroli.

Dywed y rheoliadau bod ar lywodraethwyr angen hyfforddiant ynghylch sut i ddefnyddio data perfformiad ysgol. Mae’r hyfforddiant ar gyfer y rhai hynny nad ydynt yn deall ystadegau, a heb lefel A mewn mathemateg!

Bydd y sesiwn hefyd yn edrych ar sut a phan fo data’n cael ei ddarparu i ysgolion; data asesu perfformiad a Data Teulu o Ysgolion.

Anela’r sesiwn at helpu llywodraethwyr ganfod beth sy’n bwysig ar gyfer gwella ysgol, dod yn fwy cyffyrddus ynghylch gofyn cwestiynau a gweithio gyda’r pennaeth i ganfod beth sydd angen ei wneud yn well neu’n wahanol yn yr ysgol.

Yn y cyd-destun hwn mae'n bwysig canfod targedau ac amcanion sy'n ymestyn ond yn gyraeddadwy.

Bydd yn dwyn sylw at yr hyn sydd angen i lywodraethwyr fod yn ymwybodol ohono a pha gwestiynau sydd angen eu gofyn:

  •  Pa mor dda mae’r ysgol yn ei wneud?
  • A yw ein perfformiad yn gwella o ddifrif?
  • Pa feysydd o ymarfer da sydd gennym?
  • Pwy neu beth sy’n tanberfformio?

Bydd y gweithdy’n dwyn i mewn elfennau o gynllunio strategol a hunan werthuso ac yn anelu at ddarparu cyfleoedd i rannu arbenigedd ac ymarfer da ymysg llywodraethwyr newydd a mwy profiadol.

Canlyniadau Dysgu Allweddol:

  • Defnyddio Setiau Data Craidd Llywodraeth Cymru
  • Defnyddio data i farnu perfformiad ysgol
end content