Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Cludiant Ysgol Cynllun Teithio i'r Ysgol yn Rhatach

Cynllun Teithio i'r Ysgol yn Rhatach


Summary (optional)
Os nad oes gan eich plentyn hawl i dderbyn cludiant o’r cartref i’r ysgol am ddim, yna o bosib bod modd iddynt deithio drwy ddefnyddio ein Cynllun Teithio i’r Ysgol yn Rhatach.
start content

Bydd ceisiadau i’r Cynllun Teithio i'r Ysgol yn Rhatach yn agor ddydd Llun, 14 Awst. Caiff ceisiadau eu hasesu ar sail y cyntaf i’r felin. Ni allwn warantu cludiant. Byddwn ni’n cysylltu â chi gyda phenderfyniad am eich cais - peidiwch â chysylltu â’r Cyngor i gael diweddariad oherwydd bydd hyn yn arafu’r broses. 



Sut mae’r cynllun yn gweithio?

Os nad oes gan eich plentyn hawl i dderbyn cludiant o’r cartref i’r ysgol am ddim,  yna o bosib bydd modd iddynt deithio drwy ddefnyddio ein cynllun teithio i’r ysgol yn rhatach.

Mae’r cynllun teithio’n rhatach yn defnyddio seddi gwag ar wasanaethau cludiant i’r ysgol presennol, gan gynnwys bysiau ysgol dynodedig a thacsis. Nid yw hyn yn cynnwys bysiau gwasanaeth cyhoeddus. Rydym yn asesu ceisiadau'n unigol.

Ffactorau rydym yn eu hystyried

Rydym yn ystyried sawl ffactor wrth i ni asesu eich cais, gan gynnwys:

  • Lleoedd gwag ar wasanaeth ysgol presennol. Byddwn ond yn gallu cymeradwyo eich cais os oes lle ar gael. Os nad oes seddi gwag ar gael, ni fyddwn yn cymeradwyo eich cais. Ni fyddwn yn cynyddu lle ar unrhyw gerbyd presennol na’n darparu cerbydau ychwanegol ar gyfer unrhyw gais teithio rhatach.
  • Dargyfeirio. Byddwn ond yn gallu cymeradwyo os nad yw ychwanegu eich plentyn yn golygu milltiredd ychwanegol a dargyfeirio llwybr y gwasanaeth presennol. Mae’n rhaid eich bod yn byw ar lwybr gwasanaeth cludiant presennol neu’n fodlon cyfarfod â’r cerbyd mewn man diogel ar y ffordd.
  • Pan fyddwch yn gwneud cais. Rydym yn asesu ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin.

Os nad ydych chi neu eich plentyn yn cydymffurfio â'r Cod Ymddygiad Wrth Deithio, gallai eich plentyn golli ei sedd ar unwaith.

Y Gost

O fis Medi 2018, y gost i deithio am flwyddyn fydd £240.00. Gallai hyn gael ei adolygu. Gallwch dalu'r swm hwn fel taliadau fesul cam o £24.00 y mis am 10 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol. Ni fyddwn yn sefydlu taliadau drwy ddebyd uniongyrchol nes y byddwn wedi cymeradwyo eich cais.

Nid oes gostyngiadau i ymgeiswyr sydd eisiau teithio rhan amser yn unig nac i deuluoedd sydd â mwy nag un plentyn ac eisiau gwneud nifer o geisiadau.

Sut i wneud cais

Os na allwch wneud cais yn ddigidol ar-lein neu gan ddefnyddio ap ApConwy, bydd angen i chi gysylltu â’r tîm ar 01492 577899 i ofyn am ffurflen.

Cais blynyddol

Bydd angen i chi wneud cais bob blwyddyn. Ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd byddwn yn canslo’r holl drefniadau teithio’n rhatach ac ni fydd trefniant eich plentyn yn parhau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd rhaid i chi wneud cais eto ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dydyn ni ddim yn ystyried ceisiadau blaenorol pan rydym ni’n asesu eich cais newydd.

Pryd fyddwch chi'n prosesu fy nghais?

Rydym yn prosesu pob cais cyn gynted â phosib. Os yw eich cais yn ymwneud â chludiant i ddechrau ym mis Medi, ni allwn sicrhau y bydd y cais wedi cael ei asesu cyn dechrau’r tymor ysgol. Nes derbynnir ateb, eich cyfrifoldeb chi fel rhiant yw mynd â’ch plentyn i ac o’r ysgol.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi’n ysgrifenedig beth yw ein penderfyniad unwaith y byddwn wedi asesu eich cais. Os byddwn ni’n cymeradwyo eich cais, byddwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am eich manylion cludiant.

Beth os nad oes angen cludiant bellach?

Os nad oes angen cludiant arnoch chi bellach, ysgrifennwch at y tîm Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol cyn gynted â phosib.

Os yw eich plentyn wedi derbyn cerdyn bws, rhaid i chi anfon hwn yn ôl atom ni ar yr un pryd. Byddwn yn canslo eich taliadau yn y dyfodol o’r dyddiad rydym yn derbyn eich llythyr a’ch cerdyn bws. Peidiwch â chanslo eich trefniant Debyd Uniongyrchol, byddwn ni’n gwneud hyn pan fyddwn yn derbyn eich llythyr. Os byddwn yn cymryd mwy o arian na’r hyn sy’n ddyledus, byddwch yn derbyn ad-daliad ar unwaith o dan y Warant Debyd Uniongyrchol.

end content