Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cludiant am ddim i ysgol / coleg


Summary (optional)
Efallai rhoddir cludiant am ddim, yn amodol ar ba mor bell yw’r daith gerdded ac unrhyw anghenion ychwanegol a allai fod yn berthnasol.
start content

Pwy fyddai’n gymwys?

Os yw eich plentyn o oedran ysgol statudol ac mewn addysg llawn amser, neu mewn addysg ôl-16 ac yn iau na 19 oed ar 1 Medi yn y flwyddyn academaidd, gallent fod yn gymwys i gael cludiant am ddim wrth fynychu eu hysgol neu goleg addas agosaf ac yn byw o leiaf:

  • 2 filltir o’r ysgol os ydynt dan 11 oed
  • 3 milltir o’r ysgol / coleg os ydynt dros 11 oed


Sut i wneud cais

Os ydych yn meddwl fod gan eich plentyn hawl i gludiant o’r cartref i’r ysgol, defnyddiwch y ffurflen ar-lein isod:

Beth yw teithio rhatach?

Pan fo seddau sbâr ar gael ar fws ysgol, gall y rhain gael eu gwerthu i rieni ar gyfer plant nad oes ganddynt hawl i gludiant am ddim. Teithio rhatach yw’r enw ar hyn.

Dogfennau ategol

 

Cludiant i ddysgwyr – Cwestiynau cyffredin

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi anfon fy nghais?
Bydd y Gwasanaethau Addysg yn anfon llythyr atoch os yw eich plentyn yn gymwys. Yna byddwch yn cael llythyr pellach oddi wrth y Tîm Trefniadau Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol gyda’r manylion. Pe bai gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r trefniadau cysylltwch ag adran Trefniadau Cludiant Cartref i'r Ysgol ar e-bost: cludiantysgol@conwy.gov.uk neu trwy ffonio 01492 577899.
Pryd fyddaf yn cael fy nhocyn teithio?
Unwaith bydd y Gwasanaethau Addysg wedi cadarnhau fod eich plentyn yn gymwys, bydd y Tîm Trefniadau Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol yna'n prosesu eich tocyn teithio o fewn 10 diwrnod gwaith. Anfonir y tocyn teithio trwy'r post ail ddosbarth i'ch cyfeiriad cartref ynghyd â'r amserlen bws perthnasol. Bydd y tocyn yn ddilys am gyfnod addysg gorfodol eich plentyn. Pe bai gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y trefniadau cysylltwch ag adran Trefniadau Cludiant Cartref i'r Ysgol ar e-bost: cludiantysgol@conwy.gov.uk neu trwy ffonio 01492 577899.
Mae fy mhlentyn yn cael ei gludo i'r ysgol ar hyn o bryd. Sut ddylwn adnewyddu'r cais ar gyfer y flwyddyn addysgol nesaf?
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael cludiant ysgol a bydd yn symud i'r flwyddyn ysgol newydd yn yr un ysgol, bydd y cyngor yn diweddaru eich manylion yn awtomatig ac yn parhau i wneud y trefniadau cludiant angenrheidiol os nad yw eich cyfeiriad cartref wedi newid.
Sut ydw i’n gwneud cais am gludiant i’r ysgol pan fyddwn wedi newid cyfeiriad neu ysgol?
Os yw eich plentyn yn gymwys ar hyn o bryd i gael cludiant ond wedi newid cyfeiriad neu wedi newid ysgol rhaid i chi ein hysbysu ynghylch y manylion newydd yn syth. Gallwch wneud hyn trwy lenwi ffurflen gludiant newydd, trwy e-bost: ceisiadaucludiant@conwy.gov.uk neu trwy ffonio 01492 575595/575074
Tocynnau Teithio - Ysgolion Uwchradd a Colegau
Er mwyn sicrhau bod digon o le i bawb, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithredu polisi Dim Tocyn, Dim Teithio yn llym ar bob bws ysgol. Bydd disgwyl i bob disgybl gyflwyno tocyn bws dilys i’r gyrrwr. Gwrthodir mynediad ar y bws i unrhyw ddisgybl sy’n methu â chyflwyno tocyn. Ni wneir unrhyw eithriadau wrth i’r flwyddyn academaidd newydd ddechrau a bydd y polisi Dim Tocyn, Dim Teithio ar waith o’r diwrnod cyntaf y bydd pawb yn dychwelyd i’r ysgol.
Sut gallaf archebu tocyn teithio newydd?
Os yw tocyn teithio eich plentyn wedi ei golli neu ei ddifrodi rhaid cael un newydd yn syth. Mae cost o £5.00 i gael tocyn newydd yn lle un sydd wedi ei golli neu ei ddifrodi. Gallwch archebu un newydd trwy ofyn yn nerbynfa ysgol eich plentyn neu trwy gysylltu ag adran Trefniadau Cludant Cartref i'r Ysgol ar e-bost: cludiantysgol@conwy.gov.uk neu trwy ffonio 01492 577899. Bydd y tocyn newydd yn cael ei bostio i'ch cyfeiriad cartref ar ôl cael y ffi o £5.00.
Rwy’n dymuno gwneud cwyn am y gwasanaeth tacsi/bws mae fy mhlentyn yn ei ddefnyddio i deithio i ac o'r ysgol
Hysbyswch y Cyngor pryd bynnag y bo problem er mwyn iddynt ymdrin â'r gŵyn yn syth. I gyflwyno cwyn cysylltwch ag adran Trefniadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol trwy anfon e-bost at: cludiantysgol@conwy.gov.uk neu trwy ffonio 01492 577899.
Sut byddwch yn mesur pellter?
Mesurir y pellter o gartref y plentyn i'r giât ysgol agosaf yn ôl y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael. Mesurir y pellter gan ddefnyddio system mapio cyfrifiadurol.
Gwrthodwyd cludiant i'r ysgol am ddim i fy mhlentyn; hoffwn apelio yn erbyn y penderfyniad. Sut ddylwn fynd ati i wneud hyn?
Rhaid i unrhyw apêl fod yn ysgrifenedig a'i chyfeirio at:

Pennaeth y Gwasanaethau Addysg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Gwasanaethau Addysg
Blwch POst 1
Conwy
LL30 9GN

Gallwch hefyd anfon eich cais ar e-bost at: ceisiadaucludiant@conwy.gov.uk yn nodi eich rhesymau dros yr apêl a darparu unrhyw ddogfennaeth berthnasol i gefnogi eich achos.


Cysylltwch â ni: 01492 575595 / ceisiadaucludiant@conwy.gov.uk

end content