Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwybodaeth am Brydau Ysgolion


Summary (optional)
Rydym eisiau i blant fwyta'n dda yn yr ysgol a chael gwybodaeth a sgiliau i'w helpu i fwyta'n dda gartref ac yn y dyfodol
start content

Cost

Prydau Ysgolion Cynradd

Cynigir prydau ysgol am ddim i holl ddysgwyr ysgolion cynradd Conwy; Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6.

Cost y pryd i blant rhan amser £3.20.

Prydau Ysgolion Uwchradd

Cynigir pryd llawn i ddysgwyr Ysgolion Uwchradd am gost £3.30.

Mae eitemau unigol y fwydlen wedi prisio ym mhob Ysgol Uwchradd.

Prydau Oedolion

Cynigir prydau i oedolion o gegin yr ysgol am gost £4.86 yn cynnwys TAW.|

A fyddech cystal â thalu eich arian cinio i’r ysgol ar ddydd Llun ar gyfer yr wythnos i ddod. Gallwch hefyd dalu am brydau ysgol ar-lein drwy Parent Pay.

A oes gennych hawl i ginio ysgol am ddim?

Dyma eich mynediad i’r Grant Hanfodion Ysgol gwerth:-

£125 ar gyfer disgyblion Derbyn mewn ysgol gynradd
£125 ar gyfer disgyblion ysgol gynradd ym Mlynyddoedd 1, 2, 3, 4, 5 a 6 
£200 ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd ym Mlwyddyn 7
£125 ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd ym Mlynyddoedd 8, 9, 10 ac 11

Ar gyfer bob disgybl sy’n derbyn yr hawl ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru sy’n galluogi’r Ysgol i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i’r plant hynny. Felly os oes gennych hawl, ymgeisiwch nawr. Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol neu budd-dal arall a dymunech wneud cais, chwblhewch y Ffurflen Gais Prydau Ysgol am Ddim


Ydych chi angen cymorth i wybod mwy am hawlio’r budd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt?

Ffoniwch ein Llinell Gymorth Budd-daliadau ar 01492 576616.

Mae’r llinell ar agor o 9.00 a.m. hyd at 4.00 p.m. dydd llun i ddydd Gwener. Mae cymorth ar gael os byddwch yn dechrau gweithio, os oes newid yn eich amgylchiadau personol, ac i sicrhau nad ydych yn colli consesiynau a gostyngiadau er enghraifft Cynllun Cymorth Dŵr; Gostyngiad Cartref Cynnes; Talebau Cychwyn Iach.

end content