Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwylanod a cholomennod


Summary (optional)
Mae gwylanod yn cael eu gwarchod. Mae hyn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i anafu neu ladd unrhyw wylan yn fwriadol, neu ddifrodi neu ddinistrio unrhyw nyth sydd â chyw ynddo.
start content


Pam na ddylem fwydo'r gwylanod a’r colomennod

Oherwydd ein bod wedi bwydo’r adar hyn, maent wedi dysgu bod bwyd gan bobl yn ffynhonnell hawdd o fwyd. Maent bellach yn credu bod unrhyw fwyd sydd gennym yn addas iddyn nhw. Felly, rydym yn cael mwy a mwy o gwynion o wylanod yn ‘dwyn’ bwyd gan bobl. Mewn rhai achosion, mae hyn wedi arwain at anaf corfforol. Maent hefyd yn byw ar doau adeiladau trefol. Mae’n hawdd dod o hyd i fwyd yn ei trefi a’n pentrefi.

Peidiwch â bwydo gwylanod a cholomennod

Mae gwylanod a cholomennod sy'n bwydo ar eu bwydydd naturiol yn iachach. Rhowch eich deunydd lapio bwyd a bwyd diangen mewn bin â chaead.

Beth os yw Gwylan neu Colomen yn nythu ar fy eiddo?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dosbarthu trwyddedau ar amryw o agweddau yn ymwneud â mynd i’r afael ag adar gwyllt, gweler y ddolen ganlynol:

Cyfoeth Naturiol Cymru

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content