Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Free Public Wifi Rhestr o Gategorïau Wedi'u Blocio

Rhestr o Gategorïau Wedi'u Blocio


Summary (optional)
start content

Rhestr o Gategorïau Wedi'u Blocio

 

Llywio'n Anhysbys


Tudalennau gwe sy’n hyrwyddo gweinyddion dirprwyol a llywio’n anhysbys i bori gwefannau gyda’r bwriad o drechu hidlyddion.

Gwefannau wedi’u Peryglu

Tudalennau gwe sydd wedi’u peryglu gan rywun arall, nid perchennog y safle, sy’n ymddangos yn ddilys ond sy’n cynnwys cod maleisus.

Sgiliau Troseddol / Hacio


Gweithgareddau sy’n torri hawliau dynol, yn cynnwys llofruddiaeth, difrodi a chreu bomiau ac ati;
Gwybodaeth am drin dyfeisiau electronig yn anghyfreithlon, amgryptio, camddefnyddio a thwyll;
Warez a dosbarthiadau meddalwedd anghyfreithlon eraill.

Gamblo


Tudalennau gwe sy’n hyrwyddo gamblo, loterïau, casinos ac asiantaethau betio sy’n cynnwys siawns.

Iaith Casineb


Tudalennau gwe sy’n hyrwyddo grwpiau eithafol adain dde/chwith, rhywiaeth, hiliaeth, casineb crefyddol a mathau eraill o wahaniaethu.

Cyffuriau Anghyfreithlon


Tudalennau gwe sy’n hyrwyddo defnyddio neu’n darparu gwybodaeth am gyffuriau anghyfreithlon cyffredin a chamddefnyddio cyffuriau ar bresgripsiwn.

Noethni


Tudalennau gwe sy’n dangos noethni llwyr neu rannol, heb gyfeiriad neu fwriad rhywiol

Gwe-rwydo/Twyllo


Tudalennau gwe a negeseuon e-bost wedi’u ffugio a ddefnyddir at ddibenion twyllodrus, sy’n cael ei alw hefyd yn gwe-rwydo.

Pornograffi/Rhyw


Cynnwys amlwg rywiol sy’n anaddas i bobl dan 18 oed.

Sbam


Cynnyrch a thudalennau gwe sy’n cael eu hyrwyddo drwy dechnegau sbam

Ysbïwedd a Safleoedd Maleisus


Safleoedd neu feddalwedd sy’n cael eu gosod ar gyfrifiaduron ymwelwyr gyda’r bwriad o gasglu gwybodaeth neu wneud newidiadau i’r system heb ganiatâd

end content