Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Free Public Wifi Olrhain Nifer yr Ymwelwyr

Olrhain Nifer yr Ymwelwyr


Summary (optional)
start content

Mewn lleoliadau penodol mae’n bosib y bydd y Cyngor a/neu bartneriaid fel Cynghorau Tref a Chymuned yn defnyddio gosodiadau olrhain nifer yr ymwelwyr ar bwyntiau mynediad Wi-Fi ein gwasanaeth Wi-Fi Am Ddim.

At y diben hwn yn unig mae cyfeiriad MAC (dynodwr unigryw) unrhyw ddyfais sy’n cysylltu â’r rhyngrwyd yn cael ei ganfod drwy bwyntiau mynediad i olrhain symudiad a faint o amser sy’n cael ei dreulio mewn unrhyw leoliad fel y gellir dadansoddi adroddiadau cyffredinol ar symudiadau.

Mae’n bwysig nodi fod y cyfeiriadau MAC yn ddiofyn yn cael eu dewis ar hap gan eich ffôn clyfar ac nid oes unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabyddiaeth bersonol fel enw, rhif ffôn a dyddiad geni, manylion cyswllt nac unrhyw ddata arall o ddyfeisiau symudol yn cael eu casglu fel rhan o’r broses olrhain anhysbys hon. Ni fyddai’n bosibl i gasglu gwybodaeth ychwanegol i gysylltu cyfeiriad MAC gydag unigolyn neu i gael mynediad i weithgarwch o ddyfais sy’n cysylltu â’r rhyngrwyd heb sicrhau fod unrhyw ddefnyddiwr wedi rhoi caniatâd i wneud hynny yn gyntaf. Ni all y system fodelu na phroffilio unigolion a dim ond adrodd yn ôl ar batrymau ymddygiad yn gyffredinol a gyda’i gilydd y bydd yn ei wneud fel rhoi amcangyfrif o’r niferoedd o bobl ar hyd Stryd Mostyn ar adegau gwahanol o’r dydd.

Ar hyn o bryd yr unig le mae’r gwasanaeth hwn ar gael ydi Llandudno, ar hyd Mostyn Street i’r pier. Mae casglu’r data hwn am ymwelwyr yn helpu i hysbysu penderfyniadau a wneir gan y Cyngor, ei bartneriaid a busnesau ynghylch cefnogi adfywio a chyfleoedd buddsoddi mewn canol trefi. 

end content