Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Digartrefedd A oes gennyf angen blaenoriaethol?

A oes gennyf angen blaenoriaethol?


Summary (optional)
start content

Efallai eich bod yn flaenoriaeth os:

  • Ydych chi neu aelod o'ch cartref yn feichiog
  • Oes gennych blant dibynnol o dan 16 oed neu o dan 19 oed os ydynt mewn addysg llawn amser ac yn byw gyda chi
  • Ydych yn 16 neu 17 oed
  • Ydych o dan 21 oed ac yn derbyn gofal, yn lletya neu gyda rhieni maeth; neu mewn perygl penodol o gael eich camfanteisio’n rhywiol neu ariannol
  • Ydych yn ffoi rhag camdriniaeth ddomestig
  • Ydych yn gyn aelod o'r Lluoedd Arfog 
  • Ydych yn berson diamddiffyn o ganlyniad i henaint, salwch meddwl, anabledd meddyliol neu gorfforol neu reswm arbennig arall
  • Rydych wedi cael eich rhyddhau o'r carchar ac yn ddiamddiffyn o ganlyniad i'ch carchariad.
  • Rydych yn ddigartref yn sgil argyfwng (tân, llifogydd neu drychineb arall)
  • Rydych yn ddigartref ar y stryd 

I benderfynu pa mor ddiamddiffyn ydych chi, bydd eich Swyddog Atal Digartrefedd angen gwybodaeth ynglŷn â’ch sefyllfa, er enghraifft, llythyr gan eich meddyg neu weithiwr cymdeithasol. Efallai y byddwn yn gofyn i weithiwr cymdeithsdol gynnal asesiad ar y cyd.

  • Rhif ffôn: 0300 456 9545
  • Cyfeiriad e-bost: datrysiadautai@conwy.gov.uk
  • Oriau agor: Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, cysylltwch â ni dydd Llun i dydd Iau - 8:45am i 5:15pm, dydd Gwener - 8:45am i 4:45pm.
  • Rhif Cyswllt Mewn Argyfwng y Tu Allan i Oriau: 0300 123307 

 

end content