Cymorth i rywun sy'n cysgu ar y stryd
Os ydych chi'n cysgu ar y stryd neu'n poeni am rywun, cysylltwch â StreetLink sy'n cysylltu pobl â gwasanaethau lleol i gael cymorth. Fodd bynnag, os ydych chi'n meddwl bod y person o dan 18 oed, mae'n bwysig i chi ffonio'r heddlu.
Gallwch hefyd ffonio ein tîm Opsiynau Tai ar 0300 456 9545 yn ystod oriau swyddfa, neu ar 0300 123 3079 y tu allan i oriau swyddfa.
content
Gallwn ni helpu os ydych:
- yn byw yn y DU fel arfer ac nad yw'r broses rheoli mewnfudwyr yn berthnasol i chi, neu
- wedi derbyn statws ffoadur o ganlyniad i gais am loches
Os na allwn eich helpu pan fyddwch chi'n wynebu digartrefedd, gallwn gynnig cyngor i chi ynghylch pwy i siarad ag ef/ag hi i gael cefnogaeth.
Bydd angen tystiolaeth arnom o'ch hunaniaeth, incwm neu fudd-daliadau a preswyliad:
- pasbort, trwydded yrru, cerdyn meddygol y GIG
- biliau wedi'u cyfeirio, datganiadau banc
content
Gallwn gynnig cyngor i chi os yw'n debygol y byddwch yn ddigartref yn ystod y 56 diwrnod nesaf.
Yn gyfreithiol, rydych yn ddigartref os:
- Nad oes gennych rywle i fyw
- Nad oes gennych unrhyw hawl gyfreithiol i aros yn eich cartref
- Oes gennych rywle i fyw ond eich bod yn methu mynd i mewn i'r eiddo
- Oes gennych rhywle i fyw ond nid yw'n ddiogel i chi aros yno
- Oes gennych gwch, carafán neu gartref symudol ond heb unrhyw le i’w gadw
content
Mae angen i ni ddarganfod a ydych chi wedi dod yn ddigartref yn fwriadol. Gallai hyn fod oherwydd:
- Ydych wedi gwneud rhywbeth yn fwriadol, neu wedi methu â gwneud rhywbeth yr oeddech yn gwybod a fyddai’n golygu eich bod yn colli eich cartref
- Ydych yn dewis gadael llety y gallech fod wedi aros ynddo
- Ydych wedi "trefnu" i fod yn ddigartref er mwyn i chi allu gwneud cais digartrefedd
Gallech fod yn ddigartref yn fwriadol, er enghraifft os:
- Na wnaethoch chi dalu eich rhent a’ch bod yn gallu ei fforddio
- Wnaethoch chi golli eich cartref o ganlyniad i ymddygiad gwrth-gymdeithasol
- Nad oeddech chi’n cymryd y cyngor a roddwyd i chi er mwyn eich atal rhag dod yn ddigartref
Os byddwn yn penderfynu eich bod yn ddigartref yn fwriadol a’ch bod mewn angen blaenoriaethol yna mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnom i ddarparu llety dros dro am gyfnod byr o amser yn unig fel y gallwch ddod o hyd i rywle arall.
Ni fyddech yn cael eich gweld i fod yn fwriadol ddigartref os:
- Nad oedd yn ddiogel neu rhesymol i chi aros yn eich cartref
- Ydych wedi colli eich cartref oherwydd ôl-ddyledion rhent neu forgais sydd wedi mynd yn fwy a mwy, a hynny heb fod yn unrhyw fai arnoch chi
- Oeddech wedi colli eich cartref o ganlyniad i rhywbeth wnaeth rhywun arall a’ch bod chi’n gwybod dim am y peth
content
Efallai eich bod yn flaenoriaeth os:
- Ydych chi neu aelod o'ch cartref yn feichiog
- Oes gennych blant dibynnol o dan 16 oed neu o dan 19 oed os ydynt mewn addysg llawn amser ac yn byw gyda chi
- Ydych yn 16 neu 17 oed
- Ydych o dan 21 oed ac yn derbyn gofal, yn lletya neu gyda rhieni maeth; neu mewn perygl penodol o gael eich camfanteisio’n rhywiol neu ariannol
- Ydych yn ffoi rhag camdriniaeth ddomestig
- Ydych yn gyn aelod o'r Lluoedd Arfog
- Ydych yn berson diamddiffyn o ganlyniad i henaint, salwch meddwl, anabledd meddyliol neu gorfforol neu reswm arbennig arall
- Rydych wedi cael eich rhyddhau o'r carchar ac yn ddiamddiffyn o ganlyniad i'ch carchariad.
- Rydych yn ddigartref yn sgil argyfwng (tân, llifogydd neu drychineb arall)
- Rydych yn ddigartref ar y stryd
content
Gall fod cysylltiad lleol:
- Os ydych wedi byw yn sir Conwy am 6 o'r 12 mis diwethaf
- Os ydych wedi byw yn sir Conwy am 3 o'r 5 mlynedd diwethaf
- Os oes gennych deulu agos sydd wedi byw yn y sir am y 5 mlynedd ddiwethaf
- Os ydych yn gweithio yn y sir
- Os oes amgylchiadau arbennig
Os na allwn sefydlu bod gennych gysylltiad lleol gyda'r ardal hon, ond ein bod yn gallu gwneud cysylltiad ag ardal awdurdod lleol arall, yna byddwn yn eich cyfeirio at yr awdurdod lleol hwnnw. Os nad oes gennych gysylltiad ag unrhyw ardal arall yn y DU, mae dyletswydd arnom i’ch helpu chi cyn belled eich bod yn bodloni'r meini prawf digartrefedd.
content
Os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, mae angen i chi gysylltu â Datrysiadau Tai Conwy. Byddant yn gofyn cwestiynau i chi ac yn asesu eich anghenion.
Gallwch gael cwmni ffrind, teulu, eiriolwr neu weithiwr cefnogi pan fyddwn yn asesu eich anghenion. Gallant eich helpu i chi gofio’r wybodaeth yn ystod y cyfarfod. Os ydych angen help dod o hyd i eiriolwr neu weithiwr cefnogi, gadewch i ni wybod.
Bydd Swyddog Atal Digartrefedd yn eich cynghori. Bydd y swyddog yma yn eich cynghori a’ch cefnogi nes nad ydych dan fygythiad o fod yn ddigartref. Os byddai'n well gennych siarad â swyddog o'r un rhyw â chi, nodwch hyn pan fyddwch yn cysylltu â ni a byddwn yn ceisio trefnu hyn.
content
Mae'n rhaid i ni gynnig llety argyfwng i ymgeiswyr digartref os oes gennym reswm i gredu bod ganddynt flaenoriaeth. Unwaith y bydd pob ymdrech wedi'i wneud i atal eich digartrefedd ac na allwch fyw yn eich cartref presennol mwyach, efallai y bydd eich Swyddog Atal Digartrefedd yn cynnig llety dros dro i chi am gyfnod byr ac yn parhau i’ch helpu i leihau eich digartrefedd. Gallai’r llety hwn fod yn:
- Uned llety â chefnogaeth
- Hostel
- Gwely a brecwast
- Eiddo gosod preifat dros dro
- Llety heb ddodrefn dros dro
- Lloches
Yn ystod eich cyfnod mewn llety dros dro, bydd swyddog yn cadw cysylltiad agos â chi i sicrhau fod y rhent yn cael ei dalu a'ch bod yn cadw at amodau’r ddeiliadaeth. Byddant hefyd yn eich cynorthwyo i symud ymlaen drwy eich cynghori ar gyfleoedd tai pellach. Wrth drefnu llety dros dro byddwn yn ceisio sicrhau bod unrhyw lety dros dro a gynigir yn yr ardal hon, fodd bynnag, ni allwn warantu hyn. Byddwn yn ceisio osgoi defnyddio llety gwely a brecwast lle bo hynny'n bosibl.
content
Cysylltwch â'r Tîm Dyletswydd Atal Digartrefedd ar 0300 456 9545 neu ewch i'r swyddfeydd cyngor Coed Pella, Bae Colwyn rhwng 9:30am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Y tu allan i oriau gwaith ffoniwch 0300 123 6688.
Nesaf: Os ydych chi’n cysgu allan