Nid oes dyletswydd ar Gynghorau i ddarparu llety dros dro bob tro, ond mae dyletswydd arnynt i ddarparu cyngor, cymorth ac asesiad o’ch anghenion i helpu i atal a/neu leddfu eich digartrefedd.
Cysylltwch â’n Tîm Dyletswydd Atal Digartrefedd ar 0300 456 9545 neu ewch i'r swyddfeydd Coed Pella, Bae Colwyn rhwng 9:30am a 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Tu allan i oriau arferol, ffoniwch 0300 123 6688.
Bydd rhai hosteli a llochesi nos yn derbyn pobl wrth y drws. Gelwir ‘rhain weithiau yn hosteli ‘mynediad uniongyrchol’. Mae’n well ffonio ymlaen llaw i wirio fod ganddynt ystafell. Dylech wirio os oes ganddynt reolau ynglŷn â phwy all aros yno. Mae llochesi mynediad uniongyrchol yn y Rhyl a Wrecsam
Y Rhyl:
- Lleoliad: Adeiladau Clwyd, Clwyd Street, y Rhyl, LL18 3LA
- Ffôn: 01745 345900
- Mae angen i chi gyflwyno eich hun erbyn 6.45pm i geisio lloches. Mae galw am welyau felly ystyriwch gyrraedd yn gynnar. Er mwyn bod yn gymwys mae’n rhaid i chi fod yn ddigartref, yn 18+ oed ac yn meddu ar ryw fath o ID neu Rif Yswiriant Gwladol a bod gennych gysylltiad gyda Sir Ddinbych. Os oes llai o alw am welyau efallai y byddant yn eich ystyried heb gysylltiad lleol.
Wrecsam:
- Lleoliad: Canolfan Gymunedol Maes y Dre, Ffordd Holt, Wrecsam
- Ffôn: 01978 291274 rhwng 8pm a 9am neu 01978 262 222 am ymholiadau yn ystod y dydd
Nesaf: Os ydych chi'n wynebu cael eich troi allan