Rhaid i landlordiaid preifat ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol i droi deiliaid contract allan. Weithiau mae angen rheswm cyfreithiol arnyn nhw (a elwir yn 'sail') i droi allan, ond mewn llawer o achosion nid oes angen hynny.
Mae’r rheolau rhentu yng Nghymru wedi newid.
Os ydych chi'n denant, dylai'r rheolau newydd ei gwneud hi'n haws i chi rentu a rhoi mwy o amddiffyniad i chi. Cafodd tenantiaethau eu disodli’n awtomatig gan ‘gontract meddiannaeth’ ar 1 Rhagfyr 2022. Gelwir tenantiaid yn ‘ddeiliaid contract’ bellach.
Mae gan Shelter Cymru wybodaeth am y gweithdrefnau y mae'n rhaid i landlordiaid eu dilyn i droi rhywun allan, a beth i'w wneud os ydych chi'n wynebu cael eich troi allan.
Mae gan Cyngor ar Bopeth wybodaeth am sut mae'r rheolau wedi newid yng Nghymru. Mae'n bwysig cofio bod y rheolau'n wahanol yng ngweddill y DU wrth ddarllen cyngor ar-lein.
Gall Tîm Atal Digartrefedd Conwy helpu. Byddwn yn eich cynghori ynglŷn â’ch dewisiadau ac yn rhoi cyngor ynglŷn â chanfod llety amgen, fforddiadwy. Os ydych chi wedi cael rhybudd, gallwn wirio ei fod yn ddilys a bod y rheolau wedi'u dilyn. Os ymddengys nad yw’n ddilys, gallwn gysylltu â'ch landlord i drafod hyn.
Cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd Atal Digartrefedd ar 0300 456 9545 neu ewch i'r swyddfeydd Coed Pella, Bae Colwyn rhwng 9:30am a 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Tu Allan i Oriau Arferol, ffoniwch 0300 123 6688.
Dychwelyd i'r brif ddewislen