Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Digartrefedd A oes gennyf gysylltiad lleol?

A oes gennyf gysylltiad lleol?


Summary (optional)
start content

I gael help i atal digartrefedd, mae angen i chi gysylltu â Datrysiadau Tai Conwy a fydd yn gofyn cwestiynau i chi ac, o bosib', yn eich gwahodd i gyfarfod gyda nhw i asesu eich anghenion. Byddwn hefyd yn edrych i weld a oes gennych gysylltiad lleol â'r ardal hon. Gall fod cysylltiad lleol:

  • Os ydych wedi byw yn Sir Conwy am 6 o'r 12 mis diwethaf neu 3 o'r 5 mlynedd diwethaf
  • Os oes gennych deulu agos, er enghraifft, mam, tad, plant sy'n oedolion neu frawd neu chwaer sydd wedi byw yn y sir am y 5 mlynedd ddiwethaf
  • Os ydych yn gweithio yn y sir
  • Os oes amgylchiadau arbennig, er enghraifft, triniaeth feddygol arbenigol ddim ond ar gael yn Sir Conwy
  • Os ydych yn ffoi rhag camdriniaeth / trais neu fygythiadau o gamdriniaeth / trais a mae’n debygol y bydd y bygythiadau hyn yn arwain at gamdriniaeth.

Os na allwn sefydlu bod gennych gysylltiad lleol gyda'r ardal hon, ond ein bod yn gallu gwneud cysylltiad ag ardal awdurdod lleol arall, yna byddwn yn eich cyfeirio at yr awdurdod lleol hwnnw. Nid oes raid i chi gael cysylltiad lleol i ni eich helpu i atal eich digartrefedd. Os ydych yn gymwys, yn ddigartref ac yn flaenoriaeth o ran angen, byddwn yn ystyried eich cysylltiad lleol os bydd pob ymdrech i atal a lleihau digartrefedd wedi’i wneud neu wedi methu.

Os nad oes gennych gysylltiad ag unrhyw ardal arall yn y DU, mae dyletswydd arnom i’ch helpu chi cyn belled eich bod yn bodloni'r meini prawf digartrefedd.

  • Rhif ffôn: 0300 456 9545
  • Cyfeiriad e-bost: datrysiadautai@conwy.gov.uk
  • Oriau agor: Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, cysylltwch â ni dydd Llun i dydd Iau - 8:45am i 5:15pm, dydd Gwener - 8:45am i 4:45pm.
  • Rhif Cyswllt Mewn Argyfwng y Tu Allan i Oriau: 0300 123 3079

 

end content