Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Digartrefedd Sut mae gwneud cais am gymorth?

Sut mae gwneud cais am gymorth?


Summary (optional)
Sut i gael cymorth os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref.
start content

Os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, mae angen i chi gysylltu â Datrysiadau Tai Conwy. Byddant yn gofyn cwestiynau i chi ac yn asesu eich anghenion.

Gallwch gael cwmni ffrind, teulu, eiriolwr neu weithiwr cefnogi pan fyddwn yn asesu eich anghenion. Gallant eich helpu i chi gofio’r wybodaeth yn ystod y cyfarfod. Os ydych angen help dod o hyd i eiriolwr neu weithiwr cefnogi, gadewch i ni wybod.

Os oes gennych unrhyw anghenion cyfathrebu; gallai hyn gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: dewis iaith, dolen glywed, gadewch i ni wybod ac fe fyddwn yn gwneud y trefniadau gofynnol.

Bydd Swyddog Atal Digartrefedd yn eich cynghori. Bydd y swyddog yma yn eich cynghori a’ch cefnogi nes nad ydych dan fygythiad o fod yn ddigartref.

Os byddai'n well gennych siarad â swyddog o'r un rhyw â chi, nodwch hyn pan fyddwch yn cysylltu â ni a byddwn yn ceisio trefnu hyn.

Sylwer: Er mwyn ceisio’ch atal rhag dod yn ddigartref, efallai byddwn angen cysylltu â'ch cwmni morgais neu landlord. Er mwyn asesu eich cais yn llawn, efallai bydd angen i ni gysylltu â chyn-landlordiaid am wybodaeth.

Cysylltwch â ni

Os ydych yn ddigartref neu dan fygythiad o ddod yn ddigartref, cysylltwch â ni.

  • Rhif ffôn: 0300 456 9545
  • Cyfeiriad e-bost:datrysiadautai@conwy.gov.uk
  • Rhif Cyswllt Mewn Argyfwng y Tu Allan i Oriau: 0300 123 3079 
  • Gallwch hefyd gyflwyno ymholiad i’r tîm yn defnyddio ein ffurflen ar-lein.

Oriau agor

  • Dydd Llun i ddydd Iau - 8:45am i 5:15pm
  • Dydd Gwener - 8:45am i 4:45pm.
end content