Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Digartrefedd Pwy all gael help?

Pwy all gael help?


Summary (optional)
start content

O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 nid yw pawb yn gymwys i gael help i atal digartrefedd ond mae gan bawb yr hawl i gael mynediad at gyngor a chymorth. Ni fydd gan rai pobl yr hawl i gael help i atal digartrefedd, er enghraifft, os nad ydynt fel arfer yn byw yn y DU. Mae'n debygol y byddwch yn gymwys i gael help os ydych:

  • Yn byw yn y DU fel arfer ac nad yw'r broses rheoli mewnfudwyr yn berthnasol i chi.
  • Yn byw yn y DU fel arfer a bod y broses rheoli mewnfudwyr yn berthnasol i chi, ond nad yw eich hawl i aros yn seiliedig ar amodau.
  • Wedi derbyn statws ffoadur o ganlyniad i gais am loches.

Os nad ydych yn gymwys i dderbyn cymorth i atal digartrefedd yna gallwn eich cynghori ar yr opsiynau tai a’ch cynghori i dderbyn cymorth gan asiantaethau fel NASS (Gwasanaeth Cymorth Cenedlaethol i Geiswyr Lloches). Os canfyddir eich bod yn gymwys i dderbyn cymorth, y cam ymholi nesaf fydd sefydlu a ydych yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd.

Bydd angen tystiolaeth arnom o'ch hunaniaeth, incwm neu fudd-daliadau, yn ogystal â thystiolaeth o’ch preswyliad, er enghraifft: pasbort, trwydded yrru, cerdyn meddygol y GIG, bil nwy neu drydan, trwydded deledu, cyfriflenni banc neu gymdeithas adeiladu.

Sut mae gwneud cais am gymorth?

  • Rhif ffôn: 0300 456 9545
  • Cyfeiriad e-bost: datrysiadautai@conwy.gov.uk
  • Oriau agor: Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, cysylltwch â ni dydd Llun i dydd Iau - 8:45am i 5:15pm, dydd Gwener - 8:45am i 4:45pm.
  • Rhif Cyswllt Mewn Argyfwng y Tu Allan i Oriau: 0300 123 3079

 

end content