Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Gwelliannau Tai Effeithlonrwydd Ynni Cyngor a Chymorth i Arbed Ynni yn eich Cartref

Cyngor a Chymorth i Arbed Ynni yn eich Cartref


Summary (optional)
Dyma rai syniadau am sut i wastraffu llai o ynni yn y cartref.
start content

Faint o weithiau ydych chi wedi ystyried gwella insiwleiddiad eich cartref, ond wedi penderfynu gwario’r arian ar rywbeth mwy cyffrous yn lle hynny? Meddyliwch am y peth - insiwleiddio wal geudod neu brynu dillad newydd. Does yna fawr o gystadleuaeth nag oes?

Ond efallai y byddai’n werth cofio bod defnyddio ynni’n fwy effeithlon yn eich cartref yn golygu y bydd eich biliau tanwydd yn llai, felly gyda'r arian y byddwch chi’n ei arbed, fe allwch chi brynu rhywbeth neis i chi’ch hun hefyd!

Yn ôl ymchwil diweddar gan Nwy Prydain, am bob £3 mae Deiliaid Tai ym Mhrydain yn ei wario ar danwydd, mae £1 ohono’n cael ei wastraffu'n syth bin. Nid yn unig y mae hyn yn costio arian y byddai’n well gennym ni ei wario ar bethau eraill, mae hefyd yn cynyddu allyriadau carbon sy’n arwain at gynhesu byd-eang a newid yn yr hinsawdd.

Dyma rai syniadau am sut i wastraffu llai o ynni yn y cartref:

  • Trowch thermostat eich gwres canolog i lawr un radd Celsius ac arbed 10% ar eich bil gwresogi. Ond cofiwch, os ydych chi mewn oed, ni ddylai tymheredd yr ystafell gael ei osod yn is na 21°C (70f).
  • Ydi’ch dŵr chi'n rhy boeth? Does dim angen i ddŵr poeth domestig fod yn boethach na 60 gradd Celsius.
  • Caewch eich llenni pan mae’n dechrau nosi er mwyn rhwystro gwres rhag dianc
  • Newidiwch eich bylbiau golau i rai ynni isel pan fo hynny’n bosib. Mewn tŷ tair llofft, gallai hyn arbed £70 y flwyddyn i chi.
  • Peidiwch â gadael offer trydan yn segur (ar “stand-by”) a diffoddwch wefrwr eich ffôn symudol pan nad ydych chi’n ei ddefnyddio - gallech arbed hyd at £50 y flwyddyn.
  • Gall insiwleiddio waliau ceudod gostio cyn lleied â £149, ond gall arbed tua £130 y flwyddyn i chi.
  • Gall insiwleiddio’r atig gostio cyn lleied â £199, ond gall arbed tua £100 y flwyddyn i chi.
  • Rhowch siaced arbennig am eich tanc dŵr poeth, sy’n costio tua £20, ac arbed hyd at £48 y flwyddyn.
  • Gosodwch dymheredd eich peiriant golchi ar 40 gradd yn lle 60, ac fe allech chi arbed tua £12 y flwyddyn
  • Diffoddwch y goleuadau bob tro pan na fyddwch chi'n defnyddio ystafell. Dim ond ychydig o drydan mae bwlb golau’n ei ddefnyddio, ond os gadewch chi un neu ddau ymlaen heb fod angen bob dydd, buan iawn y bydd y gost yn cynyddu.
  • Wrth ferwi’r tegell, peidiwch â berwi mwy o ddŵr nag sydd raid – ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gorchuddio’r elfen mewn tegell trydan. Mae tegelli’n defnyddio llawer o drydan yn yr amser byr y maen nhw'n cael eu defnyddio, a gallai berwi'r union faint o ddŵr rydych chi ei angen yn unig arbed hyd at £30 y flwyddyn i chi.
  • Os oes gennych chi reiddiaduron gwres canolog, rhowch ffoil alwminiwm ar y wal y tu ôl iddyn nhw i      adlewyrchu’r gwres yn ôl i’r ystafell.
  • Os nad ydych chi’n golchi llwyth cyfan o ddillad, defnyddiwch y gosodiad hanner llwyth os oes yna un ar eich peiriant.
end content