Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Gwelliannau Tai Effeithlonrwydd Ynni ECO-Flex: Gwelliannau Effeithlonrwydd Ynni

ECO-Flex: Gwelliannau Effeithlonrwydd Ynni


Summary (optional)
 
start content

ECO4 a GBIS Datganiad o Fwriad


Fe fydd cynllun EC04 yn canolbwyntio ar gefnogi aelwydydd ag incwm isel ac aelwydydd diamddiffyn.  Fe fydd y cynllun yn gwella’r cartrefi sydd leiaf effeithlon o ran ynni gan helpu i fodloni ymrwymiadau tlodi tanwydd a sero net y Llywodraeth.  Bydd Cynllun Insiwleiddio Prydain yn cefnogi’r cynllun ECO4 i weithredu'r mesurau sengl gan mwyaf sydd wedi'u targedu at ystod ehangach o aelwydydd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi Datganiad o Fwriad sy’n caniatáu darpariaeth y cynllun hwn.

Caiff grantiau eu gweinyddu gan asiantau neu osodwyr sy’n gweithio ar ran cwmnïau ynni.  Maent yn casglu manylion cleientiaid, yn cynnal arolygon ynni mewn cartrefi ac yn trefnu gwaith ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus.

Rhan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn hyn yn syml iawn yw edrych ar geisiadau a sicrhau y caiff yr amodau cymhwyso eu bodloni.  Landlordiaid ac aelodau’r cyhoedd - peidiwch ag anfon ffurflen gais atom ni’n uniongyrchol, rhaid gwneud hyn mewn partneriaeth â chwmni ynni, eu hasiant neu osodwyr.

Dogfennau wedi'u Disodli

end content