Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Gwelliannau Tai Polisiau Gwella Tai

Polisiau Gwella Tai


Summary (optional)
start content

Mae’r ddogfen hon yn esbonio polisïau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn perthynas â threfniadau adnewyddu yn y sector preifat, a’r cymorth ariannol a’r mathau eraill perthnasol o gymorth y gall y Cyngor eu cynnig.

Fe gydnabyddir bod tai o ansawdd gwael yn gallu effeithio ar iechyd preswylwyr, ac ar ansawdd bywyd mewn ardal. Er mai perchnogion y tai sy’n bennaf gyfrifol am gynnal a chadw eu tai eu hunain, cydnabyddir nad oes gan rhai perchnogion tai, yr henoed a phobl agored i niwed yn enwedig, yr adnoddau angenrheidiol i gadw eu tai mewn cyflwr da.

Fodd bynnag, gan fod dyletswydd ar yr Awdurdodau Lleol i adolygu a mynd i’r afael â safonau tai yn eu hardal, mae ganddynt rôl sylweddol i’w chwarae o ran helpu perchnogion tai i gyflawni’r cyfrifoldeb hwn. Mae’r ddogfen hon yn nodi polisïau Conwy mewn perthynas â’r mathau o gymorth y gall eu cynnig ar hyn o bryd, ac yn llunio sail ar gyfer datblygu polisïau newydd wrth i amgylchiadau newid yn y dyfodol.

end content