Mae gostyngiadau tai fforddiadwy wedi cael eu cyfrifo ar gyfer pob ardal marchnad dai leol, fel y nodwyd yn yr Asesiad o Farchnad Dai Leol Conwy 2022-2037.
Mae’r rhain yn adlewyrchu prisiau tai lleol a chanolrif incwm aelwydydd ar gyfer bob ardal fechan.
Gostyngiadau tai fforddiadwy
Mae tabl hwn yn dangos y gostyngiad sy’n cael ei gynhwyso i’r cynnyrch canolradd sydd ar werth (perchentyaeth cost isel a rhent canolradd lleol) ar draws y pum ardal marchnad dai leol.
Bydd modd i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig brynu eiddo canolradd i’w osod yn defnyddio’r un gostyngiad â’r cynnyrch perchentyaeth cost isel.
Ffynhonnell: CACI PayCheck & Phrisiau a Dalwyd ar y Gofrestrfa Tir
Ardal marchnad dai leol | Gostyngiad oddi ar werth y farchnad agored |
LHMA1 Gorllewin |
37% |
LHMA2 Creuddyn |
37% |
LHMA3 Canolbarth |
35% |
LHMA4 Dwyrain |
38% |
LHMA5 Gwledig |
33% |
Cyfrifiadau gostyngiadau tai fforddiadwy
Mae'r tabl hwn yn dangos sut cafodd y gostyngiadau eu cyfrifo.
Mae canolrif prisiau tai yn cael ei gyfrifo drwy ddadansoddi’r holl eiddo sydd wedi ei werthu yng Nghonwy o fewn cyfnod o ddeuddeg mis. Mae canolrif incwm aelwydydd yn cynnwys yr aelwyd gyfan ac yn cael ei gyfrifo yn defnyddio data diweddaraf CACI PayCheck ar gyfer yr un cyfnod o ddeuddeg mis â’r data prisiau tai.
Mae nifer o ddarparwyr morgeisi bellach yn derbyn blaendal o 5% a hwn yw’r lleiafswm sy’n ofynnol er mwyn bod yn gymwys i gymryd rhan yng nghynllun cofrestr tai fforddiadwy Conwy a chynlluniau cenedlaethol fel Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru.
Ffynhonnell: CACI PayCheck & Phrisiau a Dalwyd ar y Gofrestrfa Tir
Ardal marchnad dai leol | Canolrif incwm aelwydydd | Incwm aelwyd x3.5 | Blaendal o 5% | Incwm x3.5, a 5% | Canolrif prisiau tai | % o werth y farchnad agored sy’n daladwy | Gostyngiad oddi ar werth y farchnad agored |
LHMA1 Gorllewin |
£37,256 |
£130,396 |
£6,520 |
£136,916 |
£217,500 |
63% |
37% |
LHMA2 Creuddyn |
£37,986 |
£132,951 |
£6,648 |
£139,599 |
£222,500 |
63% |
37% |
LHMA3 Canolbarth |
£36,257 |
£126,900 |
£6,345 |
£133,245 |
£205,000 |
65% |
35% |
LHMA4 Dwyrain |
£33,612 |
£117,642 |
£5,882 |
£123,524 |
£200,000 |
62% |
38% |
LHMA5 Gwledig |
£38,441 |
£134,544 |
£6,727 |
£141,271 |
£210,000 |
67% |
33% |
Ardaloedd marchnad dai
Mae ardaloedd marchnad dai yn cynnwys y rhanbarthau etholiadol (wardiau) canlynol:
- LHMA1 Gorllewin: Bryn, Pandy, Penmaenmawr
- LHMA2 Creuddyn: Conwy, Craig y Don, Deganwy, Glyn y Marl, Gogarth Mostyn, Llansanffraid, Penrhyn, Tudno
- LHMA3 Canolbarth: Colwyn, Eirias, Glyn, Llandrillo yn Rhos, Llysfaen, Mochdre, Rhiw
- LHMA4 Dwyrain: Gele and Llanddulas, Kimnel Bay, Pensarn Pentre Mawr, Towyn
- LHMA5 Gwledig: Betws yn Rhos, Betws y Coed and Trefriw, Caerhun, Eglwys-bach a Llangernyw, Llanrwst a Llanddoged, Uwch Aled, Uwch Conwy
Map ardaloedd marchnad dai a wardiau
Mae’r map hwn yn dangos ffiniau ardaloedd marchnad dai a wardiau.
Ffynhonnell: Data agored yr Arolwg Ordnans a Chyfoeth Naturiol Cymru, 2023.
Yn cynnwys gwybodaeth sector cyhoeddus wedi’i drwyddedu o dan Drwydded Llywodraeth Agored f3.0.
Nesaf: Asesiad o'r Farchnad Dai Leol - gostyngiad tai fforddiadwy 2025-2026