Mae Cynllun Prydlesu Cymru (LSW) yn gynllun prydlesu wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan awdurdodau lleol. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i landlordiaid brydlesu eu heiddo i’r awdurdod lleol am incwm rhentu misol sicr a gwasanaeth rheoli eiddo cyflawn am rhwng 5 ac 20 mlynedd.
Manteision i berchnogion eiddo sy’n prydlesu eu heiddo i’r awdurdod lleol
- Prydlesau sy’n para rhwng 5 ac 20 mlynedd.
- Sicrwydd rhent bob mis am gyfnod y brydles.
- Lle bo’r angen, cynnig grant hyd at £5000, i sicrhau bod yr eiddo yn cyrraedd y safonau diogelwch gofynnol ac/neu i godi cyfradd EPC yr eiddo i lefel C.
Cyllid grant ychwanegol o hyd at £25,000 ar gyfer eiddo gwag hirdymor.
- Cynnal archwiliadau eiddo, gwaith atgyweirio a chynnal a chadw trwy gydol cyfnod y brydles.
- Dychwelyd yr eiddo yn yr un cyflwr ag y cafodd ei osod, yn amodol ar draul rhesymol, ac atebolrwydd y landlord ar gyfer diffygion i’r adeiledd.
- Rheoli’r eiddo yn gyflawn am gyfnod y brydles.
- Darparu cefnogaeth i’r tenant trwy gydol y denantiaeth. Ni fydd angen i’r landlord gael unrhyw gyswllt gyda’r tenant trwy gydol cyfnod y brydles.
Beth allwch ei ddisgwyl gennym
- Byddwn yn ymgymryd â’r gwaith o reoli’r eiddo o ddydd i ddydd.
- Byddwn yn talu taliadau rhent yn ystod unrhyw gyfnod pan nad yw’r eiddo wedi’i feddiannu.
- Byddwn yn archwilio pob eiddo’n rheolaidd, a monitro gweithgarwch tenantiaid a delio ag unrhyw faterion yn brydlon, os byddant yn codi.
- Byddwn yn cynnal a chadw eich eiddo trwy gydol cyfnod y brydles.
- Byddwn yn cwblhau rhestr eiddo ar ddiwedd y cyfnod prydlesu - yn amodol ar unrhyw draul - caiff yr eiddo ei ddychwelyd yn yr un cyflwr.
- Byddwn yn gyfrifol am unrhyw filiau / cyfleustodau os nad yw’r eiddo’n cael ei feddiannu.
Sicrwydd Rhent
Bydd sicrwydd rhent am 12 mis y flwyddyn, p’un a oes rhywun yn byw yn eich eiddo neu beidio. Bydd swm y rhent y byddwch yn ei dderbyn yn cael ei osod ar y Lwfans Tai Lleol ar gyfer maint eich eiddo. Mewn rhai amgylchiadau gall hyn fod yn llai na gwerth y farchnad, ond nid oes unrhyw ffioedd yn daladwy felly’r symiau a nodir isod yw’r symiau a dderbyniwch.
Mae’r cyfraddau y gallwn eu cynnig ar gyfer eiddo sy’n rhan o’r Cynllun fel a ganlyn:
- 1 ystafell wely = £346.66 bob mis calendr
- 2 ystafell wely = £493.65 bob mis calendr
- 3 ystafell wely = £573.43 bob mis calendr
- 4 ystafell wely = £723.01 bob mis calendr
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Datrysiadau Tai Conwy
Ebost: datrysiadautai@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 576274 / 01492 574235