Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Gwybodaeth i Landlordiaid Rhent, Blaendal a Bondiau

Rhent, Blaendal a Bondiau


Summary (optional)
start content

Mae’r wybodaeth a ganlyn yn ymwneud â rhent, cefnogaeth lles ar gyfer costau tai, blaendal a bondiau.

Rhent

Rhent yw’r arian a gytunir i’w dalu gan y tenant i’r landlord am gael defnyddio eiddo am gyfnod o amser, er enghraifft, yn wythnosol; misol; bob 4 wythnos. Pan fydd y rhent wedi’i gytuno, ni ellir ei newid heb y rhybuddion priodol gan y landlord i’r tenant. Os nad ydych yn siŵr sut y mae’r gyfraith yn berthnasol i’ch tenantiaeth, ceisiwch gyngor - https://sheltercymru.org.uk/get-advice/

Mae’n gyffredin i dalu rhent ymlaen llaw.

Mae gan denantiaid sy’n talu rhent yn wythnosol hawl i gael llyfr rhent, lle cofnodir y taliadau rhent a delir, a’u llofnodi gan y tenant a’r landlord. Mae’n rhaid i’r landlord fedru darparu mantolenni cyfredol a manwl gywir o gyfrifon rhent ar gyfer tenantiaid sy’n talu yn fisol neu mewn cyfnodau eraill.

Gall rhent gynnwys symiau ar gyfer cyfleustodau, ond dylai’r rhain fod wedi’u rhestru, a’u nodi ar wahân. Ni all landlordiaid godi mwy am gyfleustodau nag y maent yn ei dalu amdanynt.

Gall denantiaid fod yn gyfrifol am dalu ffioedd gwasanaeth, er enghraifft, tuag at lanhau lobi, garddio, gwasanaethu’r lifft, ayyb. Dylid nodi hyn ar wahân yn y cytundeb tenantiaeth, a dylai rheolwyr yr adeilad neu’r perchennog rannu gwybodaeth am gontract y gwasanaeth gyda'r tenant ar ddechrau'r denantiaeth.

Lwfans Tai Lleol

Budd-dal lles yw’r Lwfans Tai Lleol (LHA) a delir i denantiaid landlordiaid preifat i’w helpu i fforddio eu costau tai. Mae’r bobl sy’n gymwys yn rhai ar incwm isel e.e. Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu wedi ymddeol. Mae’r uchafswm LHA y gall aelwyd ei hawlio wedi’i bennu yn ôl maint y cartref y maent ei angen. Mae’r swm y bydd aelwyd yn ei dderbyn yn dibynnu ar eu hincwm. Os yw’r rhent yn fwy nag y gall yr aelwyd ei dderbyn mewn LHA, bydd rhaid iddynt dalu’r gwahaniaeth.

Mae cyfraddau LHA wedi’u pennu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn seiliedig ar yr wybodaeth ynglŷn â lefelau rhent lleol. Mae’r LHA sy’n daladwy yng Nghonwy wedi’i nodi yma http://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Benefits-and-grants/Housing-Benefits/Housing-Benefit.aspx . Ers 2015, mae cyfraddau LHA wedi’u rhewi fel rhan o raglen diwygio'r gyfundrefn les Llywodraeth San Steffan.

Mae’r lwfans yn cael ei weinyddu gan adran Budd-dal Tai’r Cyngor. Bydd y budd-dal fel arfer yn cael ei dalu i’r tenant. Gall landlordiaid sy’n cael problemau talu rhent gysylltu â’r tîm Budd-Dal Tai. Gall y Cyngor drefnu i dalu LHA yn uniongyrchol i landlordiaid mewn rhai amgylchiadau. Nid oes rhaid i’r Cyngor ddweud wrth landlord bod eu tenant yn cael LHA.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am fudd-dal tai yng Nghonwy yn Cyngor i landlordiaid

Cefnogaeth costau tai dan Credyd Cynhwysol

Bydd tenantiaid sy’n hawlio Credyd Cynhwysol (CC) yn cael swm i helpu i dalu rhent yn eu taliad CC misol. Bydd y lefelau yn cyfeirio at gyfraddau LHA ond bydd y swm y mae pobl yn ei dderbyn yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Bydd y budd-dal yn cael ei weinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Bydd taliadau cyntaf CC yn cael eu talu ar ôl cyfnod aros a dim ond ar ôl i’r holl wybodaeth angenrheidiol gael ei darparu gan yr ymgeisydd CC i brosesu eu cais. Bydd taliadau CC yn cael eu talu i’r tenant, ond mewn rhai achosion gellir sefydlu trefniadau talu eraill fel y gellir talu elfen rhent y cais CC yn syth i’r landlord. I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dolenni hyn https://directpayment.universal-credit.service.gov.uk/,

https://www.gov.uk/housing-and-universal-credit

Blaendal Tenantiaeth

Blaendal diogelwch yw swm o arian, sydd fel arfer gyfwerth â mis neu ddau o rent, ac bydd landlord yn gofyn amdano ar ddechrau tenantiaeth i dalu am unrhyw ddifrod i’r eiddo, neu gostau eraill sy’n deillio o dor amodau’r denantiaeth.

Mae’n rhaid i landlordiaid ddiogelu gwerth y blaendal gan ddefnyddio un o’r cynlluniau statudol. Mae’n rhaid iddynt roi gwybod i’w tenantiaid sut mae eu blaendal yn cael ei ddiogelu a sut y mae’r cynlluniau yn gweithio (gelwir hyn yn ‘gwybodaeth benodedig’) o fewn 30 o ddiwrnodau i dderbyn yr arian blaendal. Gall unrhyw fethiant i gydymffurfio arwain at ddirwy o hyd at 3x gwerth y blaendal, a chyfyngiad ar allu’r landlord i adfeddiannu eiddo. Cynghorir landlordiaid i geisio arweiniad.

https://www.gov.uk/tenancy-deposit-protection

Bondiau Tenantiaeth

Mae bond tenantiaeth yn debyg i flaendal, ond yn lle darparu arian, bydd addewid o arian i dalu costau difrod neu gostau eraill sy’n deillio o dorri amodau tenantiaeth. Bydd yr addewid yn aml wedi’i warantu gan Awdurdod Lleol neu elusen. Bydd bondiau yn cynorthwyo pobl nad ydynt yn gallu fforddio i ddarparu blaendal tenantiaeth.

Nid oes angen i landlordiaid ddarparu ‘gwybodaeth benodedig’ ar gyfer trefniadau bond. Bydd gwybodaeth ynglŷn â sut y bydd y bond yn gweithredu yn cael ei ddarparu gan yr asiantaeth sy’n broceru’r bond.

Gall amodau'r cynllun bond amrywio. Mae’n werth gweld beth y mae’r cynlluniau lleol yn eu cynnig.

Yng Nghonwy, mae Cynllun Bond Conwy a Sir Ddinbych. Ewch i wefan Nacro i gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Bond Conwy a Sir Ddinbych.

end content