Byddwn yn ymchwilio i gwynion am y materion canlynol:
- atgyweiriadau i strwythur yr eiddo
- bathiau, sinciau a gosodiadau glanweithiol eraill
- gosodiadau gwresogi a dŵr poeth
- gosodiadau trydanol a nwy
- pryderon iechyd a diogelwch
- lleithder a thwf llwydni
- gwresogi gwael ac effeithlonrwydd thermol
- diogelwch tân a diangfeydd
Gallwn hefyd ymchwilio i gwynion am eiddo domestig pan fo:
- diffyg atgyweirio o fewn un eiddo preswyl yn effeithio eiddo cyfagos
- niwsans yn cael ei achosi yn sgil cadw anifeiliaid neu adar
- eiddo yn llawn plâu neu mewn cyflwr aflan
Os ydych chi’n byw mewn Tŷ Amlfeddiannaeth, hynny yw tŷ ag unigolion yn preswylio ynddo nad ydynt yn ffurfio un aelwyd. Gall eiddo fod yn Dŷ Amlfeddiannaeth hyd yn oed os yw’n cynnwys fflatiau hunangynhwysol.