Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Gwybodaeth i Denantiaid Ceisiadau Archwilio Mewnfudo

Ceisiadau Archwilio Mewnfudo


Summary (optional)
Sut i wneud cais am archwiliad gan yr Adran Gorfodi Tai i gefnogi cais i ddod i’r DU.
start content

Mae Swyddogion Gwarchod Y Cyhoedd yn gweithio ar hyn o bryd efo Busnesau Conwy, asiantaethau a phartneriaid eraill i sicrhau eu bod yn diweddaru eu hunain â Rheoliadau'r Llywodraeth sydd gyda'r nod o gadw preswylwyr yn ddiogel a helpu i atal y lledaeniad o Covid 19.
Mae hi dal yn bosib cofnodi eich cwyn ac rydym yn ymddiheuro o flaen llaw gan mai gwaith ychwanegol yw hyn i ni ar gyfer y misoedd nesaf sy’n golygu bydd oedi gyda’r gwaith o brosesu a delio gyda’ch cwyn.

Archwiliadau Mewnfudo Tai

Pan fo rhywun yn gwneud cais mewnfudo i ddod i'r DU, mae'n rhaid iddynt gadarnhau eu bod yn symud i eiddo addas na fydd yn cael ei orlenwi wrth iddynt gyrraedd.

Noddi

Fel arfer mae'n rhaid i unigolyn a enwir noddi'r un sy'n symud i mewn i'r ardal, a gofynnir i'r unigolyn neu'r noddwr hwn gan yr awdurdod mewnfudo am dystiolaeth fod yr eiddo a symudir i mewn iddo yn addas. Fel arfer mae'r Uwch Gomisiwn Prydeinig yn gofyn i'r gwaith hwn gael ei wneud gan Syrfëwr cymwys neu Swyddog Iechyd yr Amgylchedd.

Dyluniwyd yr arolwg i sicrhau fod y llety yn cwrdd â'r meini prawf canlynol:- 

  • mae'r eiddo yn dderbyniol i bobl fyw ynddo dan Ddeddf Tai 2004
  • mae'r eiddo mewn cyflwr rhesymol, a
  • ni fydd yr eiddo yn cael ei orlenwi os ydynt yn byw yno

Y Gwasanaethau Rheoleiddio sydd yn darparu'r gwasanaeth hwn. Nid yw'n swyddogaeth statudol, felly mae ffi yn daladwy am yr archwiliad ac i gynhyrchu llythyr. Rhaid talu'r ffi hon ymlaen llaw.

Y Ffi

Y ffi am archwiliad mewnfudo yw £150. Os ydych angen y gwasanaeth hwn, llenwch y ffurflen sydd yn gysylltiedig a'i hanfon yn ôl i'r cyfeiriad ar y ffurflen. Mae'r ffurflen yn egluro sut i wneud taliad. Os ydych yn talu â siec, byddwn yn aros am gadarnhad fod y siec wedi clirio cyn trefnu apwyntiad i wneud archwiliad.

Mae'n bwysig eich bod yn darparu'r holl wybodaeth y gofynnir amdani ar y ffurflen. Os na wnewch hyn, mae'n bosibl na fydd yr Uwch Gomisiwn yn derbyn y llythyr neu fod ein llythyr yn anghywir.

Ar ôl derbyn y ffurflen

Ar ôl cael y ffurflen wedi ei llenwi a'r taliad, bydd Swyddog yn cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i chi ar gyfer cynnal yr archwiliad. Yn ystod yr archwiliad, bydd angen i'r Swyddog edrych o gwmpas yr eiddo cyfan.

Yna bydd y Swyddog yn ysgrifennu llythyr yn dweud os yw'r eiddo yn addas ai peidio i bobl fyw ynddo ac os bydd wedi ei orlenwi ai peidio os fydd yr ymgeisydd yn byw yno. Os yw'r tŷ yn anaddas i fyw ynddo neu y bydd wedi ei orlenwi, yna bydd llythyr yn cael ei anfon i'r noddwr yn egluro'r problemau o fewn 2 ddiwrnod gwaith o'r archwiliad. Os yw'r noddwr yn gwneud y gwaith sydd ei angen i wneud y tŷ yn addas i fyw ynddo, bydd y swyddog yn ail archwilio ar ôl i'r gwaith trwsio gael ei wneud (nid oes angen taliad pellach am yr ymweliad hwn). Yna os gwelir fod y tŷ yn addas i fyw ynddo, yna bydd llythyr yn cael ei anfon i'r noddwr o fewn 2 diwrnod gwaith o'r ail archwiliad.

Os yw'r ymgeisydd eisoes wedi gwneud eu cais i'r Uwch Gomisiwn, byddwn yn anfon llythyr yn uniongyrchol yno ac yn darparu copi i chi. Os nad oes cais wedi ei wneud, byddwn yn rhoi'r copi gwreiddiol a chopi o'r llythyr.

Unwaith rydym wedi cael eich ffurflen wedi ei llenwi a'r taliad, ceisiwn ymweld a darparu llythyr o fewn uchafswm o 10 diwrnod gwaith.

Ffurflen Gais Mewnfudo

Gyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd y Llywodraeth

end content