Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Gwybodaeth i Denantiaid Ydi fy Landlord yn Cydymffurfio?

Ydi fy Landlord yn Cydymffurfio?


Summary (optional)
Mae’n rhaid i landlordiaid preifat wneud yn siŵr eu bod nhw’n cydymffurfio â’r gyfraith. Mae’r dudalen hon yn cynnwys dolenni lle gall tenantiaid wirio neu wneud ymholiadau.
start content

Rhentu Doeth Cymru

Mae’n rhaid i holl landlordiaid Cymru fod wedi cofrestru â Rhentu Doeth Cymru. Mae gwefan RhDC yn galluogi unrhyw un i wirio os yw’r perchennog wedi cofrestru.

Mae’r unigolyn sy’n rheoli’r denantiaeth, un ai’r perchennog neu’r asiantaeth yn gorfod bod â thrwydded â RhDC ac yn cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Gallwch wirio os oes gan rywun drwydded yn ogystal â’r Cod Ymddygiad ar wefan RhDC.

Ewch i wefan Rhentu Doeth Cymru.

Os oes gennych unrhyw bryderon am eich landlord neu asiantaeth cysylltwch â regulatoryservices@conwy.gov.uk

Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC)

Mae’n ofynnol ar y rhan fwyaf o eiddo rhent preifat yng Nghymru i feddu ar dystysgrif EPC ac i gwrdd â safonau lleiafswm effeithiolrwydd ynni.

Mae’n rhaid i landlordiaid ddarparu copi o EPC dilys i denant neu ddarpar-denant.

Eiddo gydag EPC gradd F neu G

Oni bai fod eiddo wedi’i eithrio mae’r landlord yn torri’r gyfraith os bydd yn creu tenantiaeth newydd ar gyfer eiddo sydd â gradd F neu G. Gall arwain at ddirwy i’r landlord.

Gallwch wirio os yw’r landlord wedi eithrio’r eiddo drwy chwilio ar y gofrestr gyhoeddus.

Tai Amlfeddiannaeth (HMOs)

Mae pob eiddo gyda mwy na un aelwyd yn Dai Amlfeddiannaeth. Mae gan Gonwy fwy o  Dai Amlfeddiannaeth nag unrhyw sir arall yng Nghymru. Mae’r gyfraith yn nodi y dylai rhai Tai Amlfeddiannaeth fod yn drwyddedig. Mae’r broses drwyddedu yn sicrhau fod yr eiddo a’r landlord yn cwrdd â’r safonau disgwyliedig.

Ym Mae Colwyn, Llandudno a Phensarn. Mae Conwy yn disgwyl i fathau ychwanegol o Dai Amlfeddiannaeth i gael eu trwyddedu.

Os ydych eisiau gwirio bod gan eich landlord y drwydded gywir cysylltwch â regulatoryservices@conwy.gov.uk

Diogelwch Tân

Gwiriwch fod eich cartref yn cwrdd â’r safonau diogelwch tân drwy gysylltu â https://www.nwales-fireservice.org.uk/keeping-you-safe/

Iechyd a Diogelwch

Mae’n rhaid i landlordiaid wneud yn siŵr fod eu heiddo yn cwrdd â’r safonau iechyd a diogelwch. I wneud ymholiad cysylltwch â regulatoryservices@conwy.gov.uk

end content