Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Gwybodaeth i Denantiaid Problemau gyda landlord / llety preifat

Problemau gyda landlord / llety preifat


Summary (optional)
A yw eich landlord yn eich bygwth? Gallwn eich helpu
start content

Esiamplau

Esiamplau posibl o hyn yw bod eich landlord yn ymweld â'ch cartref drosodd a throsodd heb drefnu, yn eich troi allan yn anghyfreithlon, neu'n bygwth eich troi allan heb gymryd y camau cyfreithiol cywir.

Datrysiadau Tai Conwy

Dylech gychwyn drwy gysylltu â Datrysiadau Tai Conwy ar 0300 124 0050. Byddant yn trefnu apwyntiad efo chi i gael manylion am eich problemau ac yn cysylltu gyda'r Adran Gyfreithiol. Wedyn, byddant yn trafod os oes gennych achos yn erbyn y landlord dan sylw. Os oes, byddant yn cymryd camau cyfreithiol priodol.

Shelter Cymru

Gallwch hefyd gysylltu â Shelter Cymru i wneud cwyn yn erbyn eich landlord. Ni all Datrysiadau Tai Conwy eich helpu gyda materion fel cael eich blaendal yn ôl neu drwsio pethau yn eich cartref. Gyda materion fel y rhain, dylech gysylltu â'r ganolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol, a fydd yn gallu dweud wrthych beth i'w wneud nesaf.

Citizens Advice – Problemau cyffredin wrth rentu

Shelter Cymru

end content