Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Cartrefi gwag Cynllun Prydlesu Cymru: prydlesu eich cartref gwag i'r Cyngor

Cartrefi gwag: Cynllun Prydlesu Cymru - prydlesu eich cartref gwag i'r Cyngor


Summary (optional)
start content

Mae Cynllun Prydlesu Cymru yn gynllun prydlesu wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan awdurdodau lleol. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i landlordiaid brydlesu eu heiddo i’r awdurdod lleol am incwm rhentu misol sicr a gwasanaeth rheoli eiddo cyflawn am rhwng 5 ac 20 mlynedd.

Mantesion:

  • Prydlesau sy’n para rhwng 5 ac 20 mlynedd.
  • Sicrwydd rhent bob mis am gyfnod y brydles.
  • Lle bo angen, cynnig grant hyd at £5000 i sicrhau bod yr eiddo yn cyrraedd y safonau diogelwch gofynnol ac/neu i godi cyfradd EPC yr eiddo i lefel C.Mae cyllid grant ychwanegol o hyd at £25,000 ar gael ar gyfer eiddo gwag hirdymor.
  • Cynnal archwiliadau eiddo, gwaith atgyweirio a gwaith cynnal a chadw trwy gydol cyfnod y brydles.
  • Dychwelyd yr eiddo yn yr un cyflwr ag y cafodd ei osod, yn amodol ar draul rhesymol, ac atebolrwydd y landlord am ddiffygion strwythurol.
  • Rheoli’r eiddo yn llwyr am gyfnod y brydles.
  • Darparu cefnogaeth i’r tenant trwy gydol y denantiaeth.
  • Byddwn ni'n talu taliadau rhent yn ystod unrhyw gyfnod pan mae'r eiddo'n wag.
  • Byddwn ni'n gyfrifol am unrhyw filiau/cyfleustodau os nad yw’r eiddo’n cael ei feddiannu.

Bydd swm y rhent y byddwch yn ei dderbyn yn cael ei osod ar y Lwfans Tai Lleol ar gyfer maint eich eiddo: 

  • 1 ystafell wely: £393.90 bob mis
  • 2 ystafell wely: £548.51 bob mis
  • 3 ystafell wely: £648.22 bob mis
  • 4 ystafell wely: £852.67 bob mis

Nid oes unrhyw ffioedd yn daladwy felly’r symiau yw'r symiau y byddwch yn eu cael.

Gwnewch ymholiad ar-lein am Gynllun Prydlesu Cymru.

Dychwelyd i'r brif ddewislen

end content