Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Hamdden, Chwaraeon ac Iechyd Lotments Lotments - Cwestiynau Cyffredin

Lotments - Cwestiynau Cyffredin


Summary (optional)
Gyda chwestiwn am Lotments? Gobeithio y bydd yr wybodaeth isod yn eich helpu. 
start content

Sut mae cael lotment?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am lotment, gallwch gysylltu â'r Tîm Cyngor Amgylcheddol ar 01492 575337 neu ddefnyddio'n ffurflen ar-lein.

Pwy all gael lotment?

Gall pobl sy'n diwallu'r meini prawf canlynol gael lotment ym Mwrdeistref Sirol Conwy:

  • yn 18 oed neu'n hŷnyn byw
  • ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Bydd tenantiaid lotment sy'n symud allan o'r sir yn gorfod rhoi'r gorau i'w tenantiaeth lotment.

Ym mha ardal y gallaf gael lotment?

  • Mae 13 safle lotment yn y sir yn Llanfairfechan, Penmaenmawr, Conwy, Deganwy, Llandudno, Bae Penrhyn, Llandrillo yn Rhos, Bae Colwyn, Hen Golwyn a Thywyn. Byddwn yn ymdrechu i roi lleiniau o fewn radiws o 3 milltir i gartref yr ymgeisydd. Byddwn yn ymdrechu i roi lleiniau o fewn radiws o 3 milltir i gartref yr ymgeisydd.

A oes lleiniau ar gael rŵan?

  • Mae'r galw am lotments wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf ac ar hyn o bryd mae'r galw yn fwy na nifer y lleiniau sydd ar gael. Ar hyn o bryd mae rhestr aros a bydd lleiniau yn cael eu cynnig i ymgeiswyr yn nhrefn dyddiad.

Beth mae'r Cyngor yn ei wneud i ddatrys y broblem?

  • Mae'r Cyngor yn ystyried ei gyfrifoldeb i ddarparu lotments o ddifrif ac mae wrthi'n gweithredu strategaeth lotments newydd gyda'r bwriad o gynyddu darpariaeth lotments yn ystod y 5 mlynedd nesaf.

Pam nad oes lotments yn fy ardal i?

  • Rydym wrthi'n edrych ar ddatblygu safleoedd lotments mewn ardaloedd newydd a byddwn yn ymdrechu i wneud hyn yn yr ardaloedd lle mae'r galw mwyaf.

Ga i gadw gwenyn ac anifeiliaid?

  • Na chewch. Mae'r Cyngor yn credu mai'r defnydd gorau ar gyfer y tir sydd ar gael yw tyfu ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion.

Ga i osod sied, tŷ gwydr neu dwnnel polythen ar fy llain?

  • Mae'n rhaid i denantiaid ysgrifennu at y Cyngor i ofyn am ganiatâd i godi strwythur o unrhyw fath ar eu llain.

Mae gen i lotment, ond dydw i ddim ei eisiau erbyn hyn. Sut ydw i'n rhoi'r gorau i'r lotment?

Ga i fwy nag 1 llain?

  • Ar hyn o bryd mae gennym restr aros hir ac felly rydym yn cyfyngu'r lleiniau i 1 i bob tŷ. Wrth i ni gynyddu nifer y safleoedd ledled y Sir, byddwn yn adolygu'r polisi hwn.

Os oes gennych gwestiwn arall ynglŷn â Lotments, cysylltwch ag AFfCh neu fe allwch lenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein.

end content