Dilynwch y canllawiau hyn er eich diogelwch chi ac i ddiogelu defnyddwyr eraill:
Cadwch eich pellter oddi wrth denantiaid eraill i helpu cyfyngu lledaeniad y feirws. Dilynwch reolau cyfredol y llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol. Fe ddylech chi fod o leiaf 2 fetr/6 troedfedd ar wahân.
Peidiwch â rhannu offer nac unrhyw gyfarpar arall ag unrhyw un o denantiaid eraill y rhandir.
Cadwch at reolau hylendid llym ar ôl cyffwrdd â giatiau, cloeon neu eitemau cymunedol eraill. Diheintiwch eich dwylo ar ôl eu defnyddio bob tro.
Dim ond tenantiaid y rhandiroedd sy’n cael eu defnyddio. Ni chaniateir unrhyw grwpiau ar y safle, a dim ond pobl sy’n byw yn eich aelwyd gaiff ddod i’r safle tra byddwch chi yno.
Arhoswch ar eich plot bob amser a pheidiwch â mynd i blot arall dan unrhyw amgylchiadau.
Mae lotments yn ffordd ardderchog o gadw eich teulu yn iach. Gyda gwaith caled ac ymdrech gallwch dyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hunain a mwynhau gweithgareddau awyr agored gyda'r teulu cyfan ar yr un pryd.
Yn Sir Conwy mae 12 safle lotment gyda nifer gwahanol o leiniau ym mhob un. Mae safleoedd:
- Llanfairfechan
- Penmaenmawr
- Conwy
- Deganwy
- Bae Penrhyn
- Llandrillo yn Rhos
- Bae Colwyn
- Hen Golwyn
- Towyn
Mae lleiniau o bob maint ar gael ac mae'r rhenti'n amrywio'n unol â hynny.
Mae un safle ar Cwm Howard Lane, Llandudno, sy'n cael ei gynnal gan gymdeithas rhandiroedd. I gael rhagor o wybodaeth am y safle, cysylltwch ag Andrew Brown ar 07846622902 neu e-bost at andudno@gmail.com.
Sut i wneud cais am randir
- Gwiriwch ein tudalen Cwestiynau Cyffredin am Randiroedd i sicrhau eich bod yn gymwys cyn gwneud cais.
- Cysylltwch â’r Tîm Cyngor Amgylcheddol ar 01492 575337 neu gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.