Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Hamdden, Chwaraeon ac Iechyd Lotments Lotments Bryn Euryn a'r Warchodfa Natur Leol, Llandrillo-yn-Rhos

Lotments Bryn Euryn a'r Warchodfa Natur Leol, Llandrillo-yn-Rhos


Summary (optional)
Lleoliad – Ffordd Tan y Bryn, Llandrillo-yn-Rhos.
start content

Mae Bryn Euryn yn gartref i safle lotment a ddatblygwyd o'r newydd a Gwarchodfa Natur Leol boblogaidd.

Datblygwyd y lotments yn 2010 ac maent yn darparu 12 llain lotment ar dir uwch ar gyfer mynediad i bobl anabl, 70 o leiniau safonol, a dyfrdwll gyda phwmp dŵr yn cael ei bweru â'r haul a siediau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol gyda systemau cynaeafu dŵr glaw.

Mae'r Warchodfa Natur Leol yn adnabyddus am ei thir glaswelltog calchfaen sydd yn cynnwys nifer o rywogaethau planhigion prin ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae dwy Heneb Gofrestredig yn yr ardal, un ar y copa ac un yng nghornel gogledd ddwyreiniol y safle. Mae'r safle'n boblogaidd iawn ar gyfer hamddena, gyda’r golygfeydd godidog o ben y bryn yn ychwanegu at ei phoblogrwydd.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau.

end content