Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Creu Gardd Bywyd Gwyllt


Summary (optional)
Helpu i ofalu am eich amgylchedd lleol.
start content

Drwy ddefnyddio rhai neu’r cyfan o’r syniadau hyn yn eich gardd, gallwch ddenu bywyd gwyllt a thrwy hynny gyfrannu tuag at helpu i ddiogelu bioamrywiaeth yng Nghonwy

  • Creu lle ar gyfer compost. Rhoi deunydd planhigion, hen bridd, cardbord, toweli papur, gwastraff cegin, papurau newydd heb sglein ar y papur. Bydd hynny’n creu lle ardderchog i amffibiaid ac ymlusgiaid, sy’n helpu i gadw rheolaeth naturiol ar bryfed ac anifeiliaid sy’n gallu bod yn bla yn yr ardd.
  • Plannu rhai mathau cynhenid o goed a llwyni, gan y bydd rhain yn denu nifer fawr o bryfed, sydd yn eu tro yn fwyd i’r adar a mamaliaid. Neu dewiswch fathau dieithr sydd efo aeron neu hadau y gall adar a mamaliaid eu bwyta.
  • Cael digon o lefydd i greaduriaid fyw ynddynt, fel cerrig, tomenni o bren a llwyni trwchus, er mwyn i’r creaduriaid sy’n rheoli pla yn naturiol gael lle i guddio.
  • Cael llwyni sy’n dringo fel dringhedydd, jasmin a Parthenocissus (“dringwr fflamgoch”).  Mae rhai fel eiddew, tân-ddraenen a gwyddfid sy’n cynhyrchu aeron yn well byth.
  • Plannwch rywogaethau cynhenid yn eich gwrych, rhai fel draenen wen, collen, masarnen leiaf neu viburnum opulus – fel  o’r blaen, y rhai sy’n cynhyrchu ffrwythau ydi’r gorau!
  • Plannwch flodau gwyllt mewn wal o gerrig sych – bydd waliau felly yn gynefin hynod o dda gan eu bod yn sych yn y glaw ac yn cynhesu yn yr haul, fellu’n dda ar gyfer pryfed fel glöynnod byw yn ogystal â madfallod.
  • Newidiwch ran o’ch lawnt i fod yn weirglodd llawn blodau. Beth am adael i ran o’ch lawnt dyfu yn y gwanwyn/haf? Efallai byddwch yn synnu pa flodau ddaw i’r golwg. Gallwch gael mwy o flodau trwy hau cymysgfa hadau blodau gwyllt.  Bydd hynny’n creu bwyd a llefydd diogel i bryfed, mamoliaid ac amffibiaid.
  • Gosodwch fwrdd bwydo adar, lle ymolchi i adar neu focs nythu iddynt. Defnyddiwch wahanol fathau o fwyd adar i ddenu gwahanol fathau ohonynt. Bydd adar fel y titw yn bwydo o flychau weiren, tra bo’r robin goch, y fwyalchen a’r fronfraith yn hoffi byrddau bwydo neu fwydo ar y ddaear.
  • Plannwch goeden fydd yn llwyfan i adar ganu, allan o afael cathod.
  • Gallwch greu pwll, hyd yn oed os mai dim ond digon o le i un bychan sydd gennych. Gwnewch yn sicr fod llethr graddol ar un ochr, er mwyn i famaliaid, adar a phryfed fedru yfed ac ymolchi yn ddiogel. Tyfwch blanhigion dŵr yn y pwll a rhai daear wlyb ar un ymyl, fel lle i’r anifeiliaid guddio.

Ceisiwch osgoi defnyddio plaleiddiaid i gael gwared o greaduriaid pla fel gwlithod. Defnyddiwch ddulliau eraill fel hen boteli plastig dros blanhigion ifanc; matiau bras, blawd llif (bran) neu wymon môr o gwmpas planhigion bach; neu osod trapiau cwrw i ddal y gwlithod.

end content