Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur


Summary (optional)
Creu Lleoedd ar gyfer Natur o fewn ac o amgylch ardaloedd trefol lle mae pobl yn byw, gweithio ac yn derbyn gwasanaethau.
start content

Plannu Coed yn Ardaloedd Trefol Conwy


Gwnaethom dderbyn £570,000 o gyllid gan gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, i blannu coed mewn ardaloedd trefol.

Yn 2022, plannwyd 848 o goed ym Mae Cinmel, Towyn, Bae Colwyn a Llandudno, yn ogystal â choedwig fechan ym mharc Ffordd y Berllan yn Nhowyn.  Plannwyd coed i ffurfio rhodfeydd, coedlannau, perllannau a pharcdiroedd.

Bydd y cynllun plannu’n cael ei gwblhau yn yr hydref 2022.


Pam ein bod yn plannu coed?


Bydd y coed hyn yn cynnig lloches, porthiant ac opsiynau cymudo i’n bywyd gwyllt trefol - adar cân, ystlumod a phryfed peillio.

Byddant yn darparu planhigion gwyrdd a lloches, yn gwella ansawdd yr aer ac yn cynnig buddion emosiynol ac iechyd meddwl i breswylwyr. 

Bydd y coed hefyd yn darparu paill, neithdar, ffrwythau a lliw drwy gydol y flwyddyn.

Ble cafodd y coed eu plannu?


Bydd y cynllun plannu coed yn cael ei gwblhau yn yr wardiau trefol sydd â’r gorchudd canopi coed lleiaf, ac awgrymwyd y lleoliadau penodol gan Gynghorwyr Sir a Chynghorau Tref. 

Llandudno
Ffordd Tyn y Coed
Cae Criced The Oval
St Andrews
Lloyd Street

Llandrillo-yn-Rhos
Esgynfa Melvern/Malborough Avenue

Hen Golwyn
Ffordd Abergele

Bae Cinmel
St Asaph Avenue
Parc Owain Glyndŵr

Towyn
Gors Road
Caeau chwarae Ffordd y Berllan


Rhwydweithiau Gwyrdd Conwy


Rydym wedi derbyn £175,000 gan gronfa Lleoedd ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, ar gyfer rhaglen bartneriaeth Rhwydweithiau Gwyrdd Conwy.  Arweinir y cynllun hwn gan y Cyngor, i greu rhwydwaith natur fioamrywiol o lefydd a gweithredoedd ar draws Trefi Arfordirol Sir Conwy. 

Bydd y rhwydwaith y byddwn yn ei chreu yn troshaenu Llinell Wenyn Conwy, gan gyfrannu at  raglen genedlaethol fwy ac at Gynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio, sy’n anelu at leihau a gwrthdroi’r gostyngiad mewn pryfed peillio yng Nghymru.

Mae’r prosiect yn cynnwys:

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn:  Isallt Llandudno; Norfolk House, Pentre Ucha Abergele

  • Gosod gwelyau uchel ar gyfer plannu blodau gwyllt a llysiau
  • Gosod tai draenogod a gwestai chwilod

Y Fach a Gerddi Haulfre, Llandudno

  • Adfer nodweddion dŵr
  • Blwch nyth gwenyn
  • Plannu peillyddion

Tai Gogledd Cymru Llys Y Coed; Bryn Gynog, Cwm Teg; Parc Clarence

  • Perllannau
  • Dôl blodau gwyllt
  • Blychau adar

Parc Plas Mawr, Penmaenmawr

  • Adfer y pwll
  • Gardd synhwyrau
  • Dôl blodau gwyllt
  • Perllan dreftadaeth

Parc Prince’s Green, Bae Penrhyn

  • Perllan dreftadaeth
  • Dôl blodau gwyllt

Abergele a Phensarn, Llanfairfechan, a Hen Golwyn

  • Incredible Edibles

Uned Anafiadau i’r Ymennydd Bryn y Neuadd, Llanfairfechan

  • Gwelyau uchel ar gyfer tyfu blodau gwyllt a llysiau
  • Perllan dreftadaeth
  • Twnnel polythen

Trosffordd Cyffordd Llandudno

  • Adfer glaswelltir tegeiriannau gwenynog

Arglawdd y Cayley, Llandrillo-yn-Rhos

  • Creu dôl blodau gwyllt

Planhigfa Goed Gymunedol y Cyngor: Llanelian

Mae’r Cyngor hefyd wedi sicrhau £35,000 o gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i greu planhigfa goed, i dyfu coed brodorol yn lleol ar gyfer plannu coed cymunedol yn y dyfodol.  Mae’r blanhigfa’n cynnwys twnnel polythen er mwyn plannu coed ifanc yn ogystal â 250m2 ar gyfer tyfu 100 o goed mawr.

Rhagor o wybodaeth

Partneriaethau Natur Lleol Cymru (lnp.cymru)

end content