Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gweithgareddau ac Atyniadau ar y Gogarth


Summary (optional)
Beth i'w wneud ar y Gogarth?
start content

Mae Tramffordd Fictoraidd y Gogarth a'r Ceir Codi yn ddulliau anghyffredin o gyrraedd y copa. Mae gwasanaeth bws lleol hefyd yn rhedeg i 'r Gogarth, a theithiau coets fodur rheolaidd ar hyd Cylchdro'r Gogarth, ar Fysiau'r Gogarth.

Y dull mwyaf pleserus o chwilio'r Gogarth yw ar droed, gan fod hyn yn caniatáu digon o amser i werthfawrogi'r golygfeydd arfordirol godidog a'r bywyd gwyllt. Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybodaeth am lwybrau troed a llwybrau wedi'u harwyddo ar y Gogarth. Neu mae modd trefnu teithiau cerdded tywysedig gyda Wardeiniaid y Parc Gwledig, ar gyfer grwpiau o 10 neu ragor.

Mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Gwledig, ar gopa'r Gogarth, agor 10am hyd 5:30pm Pasg - Hydref (5pm ym mis Ebrill a mis Hydref neu mewn tywydd gwael). 

Mae Mwyngloddiau Copr y Gogarth (4000 o flynyddoedd oed ac yn destun clod rhyngwladol), ar agor bob dydd rhwng mis Chwefror a diwedd mis Hydref. Mae’r ddau le yma yn ffordd ardderchog a difyr o ddysgu mwy am yr ardal dra ddiddorol hon.

Mae Canolfan y Copa (Pen y Gwylfryn) yn cynnwys caffis, difyrion a siopau anrhegion. Ar ôl eich ymweliad, beth am ymlacio yn Llecyn Chwarae'r Parc Gwledig, lle mae digon o leoedd i eistedd a mwynhau'r golygfeydd wrth fwyta picnic yn yr awyr agored.

Fel mae ei enw'n awgrymu mae'r Caffi 'Rest and be Thankful' yn cynnig seibiant haeddiannol i'r rhai sy'n cerdded neu'n gyrru ar hyd Ffordd Doll Olygfaol Cylchdro'r Gogarth.

Mae yna hefyd Gwrs Golff Pitsio a Phytio ar y Gogarth.

Pam na wnewch chi roi cynnig ar sgïo neu eira fyrddio tra rydych yn ymweld â'r Gogarth. Mae llethr sgïo wych uwchben y Fach. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01492 874707 neu ewch i'r wefan www.jnlllandudno.co.uk

Mae rhagor o wybodaeth am y Gogarth a'r holl wasanaethau hyn ar gael gan y Ganolfan Groeso yn Llandudno (Ffôn: 01492 577577)

end content