Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Bywyd Gwyllt y Gogarth


Summary (optional)
start content

Mae cyfoeth mawr o fywyd gwyllt ar y Gogarth. Mae clogwyni'r môr, y tir glas calchfaen, y rhostir a'r coetir yn cynnal amrywiaeth enfawr o flodau gwylltion ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn, llawer ohonynt yn brin ac yn anghyffredin. Mae'r amrediad eang o flodau ar y Gogarth yn darparu bwyd ar gyfer llawer o wahanol rywogaethau o löyn byw, ac yn ystod misoedd yr haf, mae'n aml yn bosibl gweld cymylau o loÿnnod byw (rhywbeth a welir ond yn anaml iawn mewn llawer rhan o wledydd Prydain).

Hefyd yn ystod misoedd yr haf, mae'r clogwyni aruthrol yn gartref i nythfeydd cenhedlu o adar môr megis Gwylogod, Gwylanod Coesddu a Gweilch y Penwaig. Mae Cigfrain a Thylluanod Bach hefyd yn byw ar y rhannau mwy anghysbell o'r clogwyni.

Mae gwybodaeth fanylach am fywyd gwyllt y Gogarth, i'w chael yn y Cynllun Rheoli.

Y Codau Cefn Gwlad

Blodau Gwyllt

Llwybr Natur y Gogarth

 

end content