Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Darganfyddwch lle i gerdded yng Nghonwy


Summary (optional)
start content

Mae llawer o gyfleoedd i gerdded yng nghefn gwlad prydferth ac amrywiol Conwy. Rydym yn cynnig amrywiaeth o daflenni a llyfrynnau teithiau cerdded hunan-dywys.

Mae teithiau tywys yn cael eu darparu yn ystod y flwyddyn newydd, y gwanwyn, yr haf a'r hydref gan grŵp o arweinwyr cerdded gwirfoddol Cerdded Conwy Walks sy'n cael eu cefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae yna bobl eraill sydd hefyd â rôl bwysig i'w chwarae o ran mynediad i gefn gwlad yn lleol, gan gynnwys:

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sydd yn ymwneud â hyrwyddo a rheoli mynediad i gefn gwlad yn y Parc Cenedlaethol.

Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd hefyd yn hyrwyddo mynediad i gefn gwlad. Mae'n gyfrifol am fapio mynediad newydd mewn perthynas â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

end content