Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Teithiau Cerdded Llannefydd


Summary (optional)
start content

Mae pob llwybr wedi’i farcio ar y map ac yn glir i’w gerdded. Mae’n bosibl y bydd angen croesi camfeydd, tir anwastad a llefydd gwlyb a chaeau gydag anifeiliaid.

Byddwch yn barod!

  • Mae gwisgo esgidiau a dillad addas i gerdded yn hanfodol drwy’r flwyddyn.

Sut Fath o Daith yw Hi?

Mynydd y Gaer:

  • Pellter: 6.3km/3.9m Tirwedd: Mae rhai rhannau o’r llwybr yn serth, ac yn gallu bod yn anwastad, mae hen fryngaer, golygfeydd ysblennydd a chaeau amaethyddol i’w gweld hefyd.
  • Llwybrau: Llwybrau troed, traciau, tir Mynediad Agored a lonydd gwledig

Pedr Hir:

  • Pellter: 6.1km/3.7m
  • Tirwedd: Mae rhai rhannau o’r llwybr yn serth, ac yn gallu bod yn anwastad, ac mae caeau amaethyddol ar hyd y ffordd
  • Llwybrau: Llwybrau troed a lonydd gwledig

Sut Ydw i'n Mynd Yno?

  • Gyda char: Mae Llannefydd tua 7 milltir o Ddinbych. Mae maes parcio am ddim yng nghanol y pentref (edrychwch ar y map i weld lleoliad y maes parcio). Cymerwch y B5382 tuag at Henllan a pharhau ar y ffordd hyd y dewch i’r pentref. Côd Post LL16 5ED
  • Ar y bws: mae gwasanaethau bws cyfyngedig yn dod i Lannefydd: www.traveline-cymru.info

    Traveline Cymru 0871 200 22 33

Mae nifer o gyhoeddiadau ar gael i'w prynu. Ewch i'n tudalen Cyhoeddiadau Cefn Gwlad am fwy o wybodaeth.

Y Côd Cefn Gwlad

Mapiau:

 

end content