Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Llwybr Hiraethog


Summary (optional)
start content

Ydych chi awydd mynd am dro mewn ardal dawelach? Mae Llwybr Hiraethog yn ne Sir Conwy (ger Pentrefoelas a Cherrigydrudion), lle mae pentrefi a thir fferm yn codi at rostir a dros Sir Ddinbych.

Gallech gymryd yr her a cherdded y llwybr syth o Bentrefoelas yng Nghonwy i Ddinbych/ Bodfari yn Sir Ddinbych. Neu gallwch gerdded y llwybrau cylchol byrrach o’r gwahanol bentrefi.

Ewch i wefan Hiraethog i weld rhagor o lwybrau cerdded, e.e. o amgylch Llyn Brenig a’r Alwen yn Hiraethog ac i gael gwybodaeth gyffredinol arall am yr ardal.

Pa fath o daith gerdded yw hon?

  • Pellter: Mae’r rhwydwaith yn cynnwys llwybr syth 50+ milltir, a chwe llwybr cylchol byrrach y gellir eu cerdded yn unigol. I weld y map cliciwch ar y ddolen isod
  • Cŵn: Dylid cadw cŵn ar dennyn. Byddwch yn pasio anifeiliaid. Mae hon yn ardal amaethyddol
  • Lluniaeth: Ar gael mewn siopau a thafarnau lleol
  • Graddio’r daith gerdded: hawdd, cymedrol a chaled yn dibynnu ar leoliad, pellter a thirlun y daith byddwch chi’n ei dewis.
  • Map: Os hoffech chi brynu map sy’n dangos y llwybr hwn, y mapiau y byddwch eu hangen yw’r Explorer OL18. Gallwch fynd draw i wefan Arolwg Ordnans i gael rhagor o wybodaeth neu i brynu eich map, neu mae’r mapiau hyn ar gael i’w prynu mewn nifer o siopau ar y stryd fawr. Gallwch lawrlwytho cerdyn y llwybr ar gyfer y daith hon isod, ond rydyn ni wastad yn argymell mynd â map OS yn ychwanegol at unrhyw daflen.

Sut ydw i’n cyrraedd yno?

  • Mewn bws: Rhif Ffôn: Traveline Cymru 0871 200 22 33. www.travelinecymru.info  
  • Mewn car: Dilynwch yr A5 i Bentrefoelas/ Cerrigydrudion

Paratowch!

Mapiau

end content