Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Taith Pererin


Summary (optional)
Mae Taith Pererin Gogledd Cymru yn 135 milltir o hyd, o Abaty Dinas Basing i Ynys Enlli.
start content

Mae Taith Pererin Gogledd Cymru yn 135 milltir o hyd, o Abaty Dinas Basing i Ynys Enlli.Mae’r llwybr yn cysylltu eglwysi hynafol a gysegrwyd i seintiau’r 6ed ganrif.Mae’n gorgyffwrdd â Llwybr Gogledd Cymru uwchben Conwy a Phenmaenmawr.

Gwirfoddolwyr Taith Pererin Gogledd Cymru sy’n gyfrifol am reoli a chynnal a chadw'r llwybr.

WPa fath o daith gerdded yw hon?

  • Tir: amrywiol o ucheldir anwastad i dir gwastad arfordirol
  • Pellter: Mae’r llwybr tua 135 milltir / 218 cilometr o ran hyd, er hynny, mae’n rhwydd cynllunio taith gerdded fyrrach gan ddefnyddio rhan o’r llwybr
  • Cŵn: Dylid cadw cŵn ar dennyn
  • Lluniaeth: Ar gael mewn siopau a thafarnau lleol
  • Graddio’r daith gerdded: hawdd, cymedrol a chaled yn dibynnu ar leoliad, pellter a thirlun y daith y byddwch chi’n ei dewis
  • Map: Ymwelwch â gwefan y Daith Pererin am ragor o wybodaeth

Sut ydw i’n cyrraedd yno?

  • Ar drên: Rhif ffôn: 0845 7484950. www.nationalrail.co.uk  
  • Mewn bws: Rhif ffôn: Traveline Cymru 0871 200 22 33. www.travelinecymru.info  
  • Mewn car: Dilynwch yr A55 ar draws Gogledd Cymru. Mae nifer o feysydd parcio ar hyd y llwybr. Nodwch y gall taliadau parcio fod yn gymwys yn rhai o’r meysydd parcio. Ymwelwch â’n tudalen parcio am ragor o wybodaeth ynghylch meysydd parcio talu ac arddangos yn sir Conwy.

Paratowch!

Gwefan y Daith Gerdded

 

end content