Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Llwybr Llechi Eryri


Summary (optional)
Mae Llwybr Llechi Eryri yn archwilio treftadaeth ddiwydiannol y pentrefi llechi ar draws Eryri.
start content

Mae’r llwybr cylch 83 milltir yn ymweld â rhannau hyfryd llai adnabyddus yn Eryri, gan gychwyn ym Mhorth Penrhyn ger Bangor ac mae’n diweddu ym Methesda. Mae’r daith yn mynd drwy rhai o fynyddoedd mwyaf Eryri, gan gynnig amrywiaeth o brofiadau, gan gynnwys mynyddoedd a choedwigoedd, llynnoedd ac afonydd, o’r dyffryn i’r môr.

Gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri sy’n rheoli a chynnal a chadw’r llwybr.


Pa fath o daith gerdded yw hon?

  • Tir: amrywiol o lwybrau serth i dir gwastad coedwigoedd a chefn gwlad
  • Pellter: Mae’r llwybr tua 83 milltir / 134 cilometr o ran hyd, er hynny, mae’n rhwydd cynllunio taith gerdded fyrrach gan ddefnyddio rhan o’r llwybr
  • Cŵn: Dylid cadw cŵn ar dennyn
  • Lluniaeth: Ar gael mewn siopau a thafarnau lleol
  • Graddio’r daith gerdded: hawdd, cymedrol a chaled yn dibynnu ar leoliad, pellter a thirlun y daith y byddwch chi’n ei dewis
  • Map: Ymwelwch â gwefan Llwybr Llechi Eryri am ragor o wybodaeth.


Sut ydw i’n cyrraedd yno?

  • Ar drên: Rhif Ffôn: 0845 7484950. www.nationalrail.co.uk  
  • Mewn bws: Rhif Ffôn: Traveline Cymru 0871 200 22 33. www.travelinecymru.info 
  • Mewn car: Defnyddiwch yr A5, yr A470 a’r A487 i gyrraedd y mannau dechrau. Mae nifer o feysydd parcio ar hyd y llwybr. Nodwch y gall taliadau parcio fod yn gymwys yn rhai o’r meysydd parcio. Ymwelwch â’n tudalen parcio am ragor o wybodaeth am feysydd parcio talu ac arddangos yn  sir Conwy.


Paratowch!

 

end content