Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Llwybr Arfordir Cymru


Summary (optional)
start content

Awydd cerdded arfordir Cymru? Neu ran ohono? Bellach, fe allwch chi gerdded ar hyd arfordir cyfan Cymru (870 milltir / 1400 km) o gyrion Caer yn y gogledd i Gas-Gwent yn y de. Neu fe allwch chi ddewis cerdded rhannau ohono, mae hynny i fyny i chi.... I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru.

Os hoffech chi daith ychydig yn fyrrach yn Sir Conwy, fe allech chi ddewis cylchdeithiau oddi ar Lwybr Arfordir Cymru ym Mhensychant, Penmaenmawr, Taith Uwchdir Llanfairfechan, a Theithiau Cerdded Llanfairfechan.

Mae Llwybr y Gogledd sy’n hŷn i’w gael hefyd, sy’n rhedeg o Fangor i Brestatyn. Mae hwn yn gorgyffwrdd Llwybr Arfordir Cymru ond lle mae’n gwahanu ac yn mynd i’r tir uwchben Llanddulas a Chonwy i Lanfairfechan, mae’n creu cylchdeithiau amgen braf. (gweler y map i’w lawrlwytho isod).

Mae Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr y Gogledd hefyd yn cysylltu â Llwybr Clawdd Offa ym Mhrestatyn felly gallech gerdded o amgylch Cymru gan ddefnyddio'r ddau lwybr hyn a Llwybr Arfordir Cymru.

Pa fath o daith gerdded yw hon?

  • Tir: amrywiol o ucheldir anwastad i dir gwastad a phromenâd gydag arwyneb
  • Pellter: Mae’r llwybr cyfan tua 870 milltir / 1400 cilometr o ran hyd, er ei bod yn rhwydd cynllunio taith gerdded fyrrach gan ddefnyddio rhan o’r llwybr
  • Cŵn: Dylid cadw cŵn ar dennyn
  • Lluniaeth: Ar gael mewn siopau a thafarnau lleol
  • Graddio’r daith gerdded: hawdd, cymedrol a chaled yn dibynnu ar leoliad, pellter a thirlun y daith byddwch chi’n ei dewis
  • Map: Os hoffech chi brynu map sy’n dangos y llwybr hwn, y mapiau y byddwch eu hangen yw’r Explorer OL17  (gorllewin), a’r Explorer 264 (dwyrain). Gallwch fynd draw i wefan Arolwg Ordnans i gael rhagor o wybodaeth neu i brynu eich map, neu mae’r mapiau hyn ar gael i’w prynu mewn nifer o siopau ar y stryd fawr.

Sut ydw i’n cyrraedd yno?

Paratowch!

Mapiau

end content