Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Taith Uwchdir Huw Tom, Penmaenmawr i Rowen


Summary (optional)
start content

Mae Taith Huw Tom yn daith gerdded linellol o Benmaenmawr ar yr arfordir, drwy'r mynyddoedd i Rowen, pentref bach yn Nyffryn Conwy, gyda golygfeydd godidog o Ddyffryn Conwy, y Gogarth ac ar draws yr arfordir a Bae Lerpwl.

Mae'n bosib defnyddio cludiant cyhoeddus i gwblhau'r daith.

Tirwedd:

Cerdded bryniau; mae'r llwybr yn codi'n serth o Benmaenmawr ar lefel y mor, i 300m ac amgylchedd ucheldir, a llethr serth i lawr i Rowen.

Mae giatiau a chamfeydd ar hyd y daith gan gynnwys hen gamfeydd careg dros waliau cerrig uchel. Rhiad croesi un nant (dylid ei osgoi wedi glaw trwm)

  • Pellter: 9.6 cilomedr. 6 milltir
  • Amser: 4.5 awr
  • Llwybrau: palmant, gwair, llwybrau caregog/garw, ffyrdd gydag arwynebau caled. Byddwch yn ofalus wrth gerdded ar hyd y ffyrdd
  • Cŵn: Ar dir mynediad agored, rhaid cadw cŵn ar dennyn byr rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf a phan rydych yn agos at anifeiliaid fferm. Dylid cadw rheolaeth dynn ar gŵn bob amser
  • Cyfeirnod grid dechrau: SH717 762. Bythynnod New York, Penmaenmawr
  • Cyfeirnod grid gorffen: SH760 719. Rowen
  • Bwyd a diod: ar gael yn Mhenmaenmawr a Rowen
  • Parcio: Maes parcio'r Llyfrgell, Penmaenmawr a Rowen

Byddwch yn Barod!

  • Gwisgwch sgidiau cerdded cryf
  • Ewch a dillad cynnes gwrth ddŵr a bocs bwyd gyda chi
  • Mae'n syniad da i gymryd OS Map a chwmpawd gyda chi

Gweler isod am gopi PDF o lwybr y daith gerdded / taflen.

Y Côd Cefn Gwlad

Mapiau:

 

end content