Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Taith Uwchdir Llanfairfechan


Summary (optional)
start content

Gwarchodfa Natur Leol Nant y Coed – nid oes mynediad drwodd rhwng mynedfa Newry Drive a maes parcio’r Tair Nant (Cyfeirnod Grid: SH69806 73586) na drwy ben uchaf Valley Road. Mae’r cerrig camu yn rhan uchaf y warchodfa wedi cau gan fod nifer o’r cerrig ar goll.

Llwybr amgen: Yn y gyffordd â Newry Drive, trowch i’r dde i barhau ar Valley Road a chroeswch y bont gyda logo’r Parc Cenedlaethol. Dilynwch y ffordd o amgylch i’r chwith ac i fyny’r bryn i gyrraedd maes parcio'r Three Streams.


Os ydych yn chwilio am anturiaeth sydd ddim rhy heriol, yna mae hwn yn lle delfrydol i fynd am dro.   

  • Tirwedd: mynydd agored, rhostir, rhywfaint o ddringo serth a dringo cymedrol.
  • Pellter: 7 cilomedr / 4 ½ milltir.
  • Amser: oddeutu 4 awr.
  • Llwybrau: hawliau tramwy cyhoeddus, Ffordd Rufeinig, traciau a lonydd.
  • Cŵn: mae’n rhaid cadw cŵn dan reolaeth tyn.
  • Taith gerdded graddio - cymedrol. Rhai llethrau serth a thir anwastad

Sut i gyrraedd yma

  • O’r orsaf drenau: trowch i'r dde i fyny Station Road. Ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd i fyny Village Road, a pharhau heibio'r siopau a throi i'r chwith i gyfeiriad Valley Road. Parhewch i gerdded trwy’r tai a heibio dau droad  i’r dde (yr olaf ag arwydd y Parc Cenedlaethol ar y bont).  Cyn dod at droad sydyn i’r chwith fe welwch y fynedfa i Warchodfa Natur Leol Nant y Coed. Dilynwch y prif lwybr drwy’r warchodfa i faes parcio’r Three Streams.
  • O’r safle bws: o’r groesffordd dilynwch yr un llwybr ag sydd uchod, i fyny Village Road a Valley Road, trwy Nant y Coed i faes parcio’r Three Streams.
  • Â char: dilynwch yr A55 o’r Gorllewin i gyffordd 14, a chyffordd 15 o’r Dwyrain, ar gyfer Llanfairfechan. Dilynwch y brif ffordd at y groesffordd â goleuadau traffig. Trowch i fyny am Village Road ac yna dilynwch Valley Road drwy’r tai. Cymrwch yr ail droad ar y dde gyda logo'r Parc Cenedlaethol ar y bont. Dilynwch y ffordd i gyrraedd maes parcio'r Three Streams ar y chwith.

Paratowch

  • Wrth gerdded ar hyd ffyrdd, cerddwch ar yr ochr dde mewn llinell sengl
  • Mae esgidiau a dillad addas yn hanfodol ar gyfer cerdded gydol y flwyddyn.
  • Cofiwch fynd â digon o fwyd a dŵr.

Cyfeirnod Map

  • Cyfeirnod grid dechrau a diwedd: SH 698 736
  • Map: Explorer OL17

Gwiriwch ragolygon y tywydd

Y Côd Cefn Gwlad

Mapiau:

 

end content