Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyffordd Llandudno i Lan Conwy – Adborth i Ymgynghoriad Teithio Llesol


Summary (optional)
Crynodeb o adborth ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer gwell llwybr cerdded, beicio ac olwynion rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno.
start content

Ynglŷn â’r ymgynghoriad

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer Cynllun Llwybr Teithio Llesol Glan Conwy i Gyffordd Llandudno o 23 Ionawr i 17 Chwefror 2023.

Roedd deunyddiau ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor, fel pecyn papur i’w bostio, ac mewn digwyddiad galw heibio cyhoeddus a gynhaliwyd yn Nhŷ’r Eglwys, Glan Conwy ar 1 Chwefror 2023.

Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn datganiadau i’r wasg, ar wefan y Cyngor ac mewn posteri a llythyrau at fudd-ddeiliaid lleol.

Roedd deunyddiau’r ymgynghoriad yn egluro’r amcanion y byddai’r cynllun yn eu bodloni, gan ddarparu mynediad teithio llesol i bawb, i’r gwaith, addysg a gwasanaethau. Byddai’r cynllun yn cysylltu Glan Conwy a Chyffordd Llandudno ar gyfer pobl sy’n cerdded, ar olwynion ac yn beicio.

Roedd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i gymunedau ystyried 4 dewis a darparu adborth.

Ymatebion i’r ymgynghoriad

Ymatebodd 223 o bobl i’r ymgynghoriad

Roedd mwyafrif yr ymatebion yn dweud bod angen llwybr teithio llesol rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno.

Y dewis a ffafrir

  • Dywedodd 104 o bobl (46%) mai Dewis 4 oedd y dewis yr oeddent yn ei ffafrio
  • Roedd 50 o bobl (22%) yn ffafrio Dewis 7
  • Roedd 36 o bobl (16%) yn ffafrio Dewis 5
  • Roedd 4 o ymatebwyr yn ffafrio Dewis 4 a 5

Y dewis a ffafrir leiaf

  • Dywedodd 137 o bobl (61%) mae Dewis 1 yr oeddent yn ei ffafrio leiaf
  • Dywedodd 69 o bobl (31%) mae Dewis 7 yr oeddent yn ei ffafrio leiaf

Defnyddio’r llwybr teithio llesol

Dywedodd 148 o bobl (66% o’r ymatebwyr) y byddent yn defnyddio eu llwybr a ffafrir o leiaf unwaith yr wythnos.

  • Dywedodd 75 o bobl y byddent yn ei ddefnyddio 1-2 diwrnod yr wythnos
  • Dywedodd 41 o bobl y byddent yn ei ddefnyddio 3-4 diwrnod yr wythnos
  • Dywedodd 32 o bobl y byddent yn ei ddefnyddio 5-7 diwrnod yr wythnos

Teithio presennol

Gofynnom i bobl ddweud wrthym ni sut maent fel arfer yn teithio rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno. Mae rhai pobl yn defnyddio mwy nac un math o gludiant

  • Dywedodd 194 eu bod yn defnyddio car preifat
  • Dywedodd 117 o bobl eu bod un ai’n cerdded neu’n beicio
  • Mae 53 yn defnyddio math o gludiant cyhoeddus


Gofynnom i bobl ddweud wrthym ni beth sy’n eu hatal rhag cerdded, beicio neu fynd ar olwynion rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno ar hyn o bryd.

  • Dywedodd 76 o bobl nad ydynt yn teimlo’n ddiogel oherwydd y traffig
  • Dywedodd 40 o bobl fod y siwrnai yn cymryd gormod o amser ond dim ond 9 o bobl oedd yn dweud bod y siwrnai yn rhy bell.
  • Dywedodd 18 o bobl nad oedd y llwybrau presennol yn hygyrch iddyn nhw

Beth nesaf?

Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei ychwanegu i’r broses werthuso Cam 2 WelTAG, fel rhan o asesu meini prawf derbynioldeb pob dewis.

Mae’r gwerthusiad hefyd yn cynnwys meini prawf economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol.

Bydd y dewis sy’n sgorio uchaf yn y broses werthuso yn cael ei symud ymlaen a’i ddatblygu fel y dewis a ffafrir yn y cam nesaf.

end content