Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Problemau a Chyfleoedd


Summary (optional)
start content

Y materion a’r cyfleoedd allweddol ar gyfer y llwybr Teithio Llesol hwn yw:

Ffigur 1 Crynodeb o faterion a chyfleoedd

ThemaMaterionCyfleoedd
Rhwydwaith teithio llesol presennol ac yn y dyfodol  Darpariaeth teithio llesol cyfyngedig ar hyn o bryd yn ardal yr astudiaeth, heb unrhyw gysylltiad rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno. Mae Map Rhwydwaith Teithio Llesol diwygiedig Conwy wedi’i ddatblygu ar ffurf drafft ac mae’n amlygu dyheadau ar gyfer rhwydwaith integredig gyda chysylltiadau o Lan Conwy i Gyffordd Llandudno.
Cysylltiadau lleol ar drafnidiaeth gyhoeddus Gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus afreolaidd ac anaml. Dim cysylltiadau uniongyrchol o Lan Conwy i Gonwy. Byddai galluogi cerdded a beicio dros bellteroedd byrrach yn darparu opsiynau teithio amgen i drafnidiaeth gyhoeddus a char preifat.
Darpariaeth rhwydwaith ffyrdd Mae lefelau beicio ar y ffordd yn isel ac yn gyffredinol wedi aros yn gyson dros amser, heb fawr o dwf.

Nid yw amgylchedd y ffyrdd yn ffafriol i feicio. Rhai damweiniau yn ymwneud â beicwyr ar hyd yr A470 a'r A547.
Byddai darparu seilwaith pwrpasol ar gyfer beicwyr yn gwella’r amgylchedd ar gyfer teithio llesol yn sylweddol.
Dulliau teithio Lefelau uchel o ddefnyddio ceir preifat a lefelau isel o feicio. Gallai darpariaeth teithio llesol bwrpasol, ochr yn ochr â mesurau newid ymddygiad ehangach, arwain at symudiad nodedig oddi wrth geir.
Cyrchfannau a mynediad i gyfleoedd Mae ystod o amwynderau, sydd eu hangen ar drigolion Glan Conwy, yng Nghyffordd Llandudno a Chonwy.

Ystyrir bod mynediad at wasanaethau o Glan Conwy yn wael yn ôl safonau Cymru.

Mae diffyg cysylltiadau rhwng cymunedau yn ei gwneud yn heriol i gael mynediad at wasanaethau drwy gerdded, beicio neu fynd ar olwynion. 
Byddai gwell seilwaith teithio llesol yn gwella mynediad at gyflogaeth, addysg ac amwynderau eraill, yn ogystal â bod o fudd i iechyd a llesiant trigolion lleol.
Pobl yn debygol o deithio ar feic (tuedd i feicio) Lefelau isel o deithio llesol ar hyn o bryd. Ffafriaeth resymol ar gyfer beicio o Glan Conwy i Gyffordd Llandudno – potensial heb ei fodloni eto. Gellid trosi teithiau pellter byr o geir preifat i deithio llesol.
Rôl twristiaeth Nid yw teithiau twristiaeth a hamdden yn brif ffocws Deddf Teithio Llesol (Cymru). Amrywiaeth eang o atyniadau twristiaeth a hamdden yn yr ardal, gyda mynediad i lwybrau teithio pellter hirach. Yn cynnig potensial i ehangu teithio llesol lleol at ddibenion twristiaeth a hamdden.  

 

Tudalen Nesaf

end content