Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Opsiynau


Summary (optional)
start content

Datblygu opsiynau

Darparodd adroddiad Cam Un WelTAG ddisgrifiad clir yn seiliedig ar dystiolaeth o'r materion y mae angen mynd i'r afael â hwy. Nododd restr hir o 29 opsiwn. O'r rhestr hir hon, gwnaethom roi 3 opsiwn ar y rhestr fer i'w hystyried ymhellach. Rydym wedi ychwanegu pedwerydd opsiwn o'r rhestr hir yn dilyn mewnbwn gan randdeiliaid.

Rhestr fer o opsiynau

Mae’r opsiynau hyn ar gyfer llwybr teithio llesol a rennir wedi’u dewis ar sail trafodaethau â rhanddeiliaid a pha mor dda y maent yn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd.

Lluniad Ymgynghori Trosolwg Opsiynau (PDF)


Opsiwn 1 

Cost: £2,035,000

  • Gorsaf reilffordd Glan Conwy i orsaf reilffordd Cyffordd Llandudno
  • ar hyd yr A470 a'r A457 Ffordd Conwy
  • defnyddio'r llwybr cyd-ddefnydd presennol rhwng ffordd fynediad gorsaf reilffordd Glan Conwy a Phendraw’r Llan
  • defnyddio’r gwelliannau teithio llesol diweddar ar draws Cyffordd 19 yr A55 (Black Cat)

Lluniad Ymgynghori Opsiyn 1 (PDF)


Opsiwn 4

Cost: £8,453,000

  • Pentref Glan Conwy i orsaf reilffordd Cyffordd Llandudno trwy Gyffordd 18 yr A55
  • drwy warchodfa natur yr RSPB
  • pont yn croesi rheilffordd Dyffryn Conwy yng nghilfan yr A470
  • cyswllt â llwybr teithio llesol arall yng Ng18, gan ddarparu mwy o gysylltiadau i Gyffordd Llandudno, gan gynnwys ar hyd yr A546 a Ferndale Road

Lluniad Ymgynghori Opsiyn 4 (PDF)


Opsiwn 5 

Cost: £8,490,000

  • Pentref Glan Conwy i orsaf reilffordd Cyffordd Llandudno trwy Gyffordd 18 yr A55
  • drwy warchodfa natur yr RSPB
  • pont yn croesi rheilffordd Dyffryn Conwy o’r A470
  • cyswllt â llwybr teithio llesol arall yng Ng18, gan ddarparu mwy o gysylltiadau i Gyffordd Llandudno, gan gynnwys ar hyd yr A546 a Ferndale Road

Lluniad Ymgynghori Opsiyn 5 (PDF)


Opsiwn 7

Cost: £23,916,000

  • Pentref Glan Conwy i orsaf reilffordd Cyffordd Llandudno trwy Gyffordd 18 yr A55
  • gwella tanffordd rheilffordd ger gorsaf reilffordd Glan Conwy
  • glwybr uwch wrth ymyl y rheilffordd ar hyd yr aber
  • cyswllt â llwybr teithio llesol arall yng Ng18, gan ddarparu mwy o gysylltiadau i Gyffordd Llandudno, gan gynnwys ar hyd yr A546 a Ferndale Road

Lluniad Ymgynghori Opsiyn 7 (PDF)


Gwerthusiad opisynau

Rydym wedi asesu pob opsiwn ar y rhestr fer ac wedi eu sgorio ar:

  • amcanion y cynllun
  • ystyriaethau amgylcheddol
  • ystyriaethau economaidd
  • ystyriaethau cymdeithasol a diwylliannol

Mae’r asesiadau’n cymharu â’r opsiwn “Gwneud Dim”, sef y sefyllfa bresennol gydag ymyrraeth gyfyngedig ac yn cynnwys unrhyw ddatblygiad yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn y dyfodol. Mae'r asesiad hefyd yn ystyried pa mor dda y mae pob opsiwn yn datrys y problemau a nodwyd.

Rydym wedi asesu arwyddocâd a maint yr effeithiau gan ddefnyddio graddfa saith pwynt:

 

Tudalen Nesaf

end content