Cyflwyniad
Rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn i glywed eich barn ar y cynnig arfaethedig mewn perthynas â chyffordd Toll Bar a’r gwelliannau i’r llwybr teithio llesol ar hyd Ffordd Llandudno rhwng Coleg Llandrillo a Ffordd Llanrhos.
Rydym yn anelu at alluogi pobl i ddefnyddio llwybrau teithio llesol ar gyfer siwrneiau dyddiol drwy uwchraddio a chreu llwybrau cerdded a seiclo newydd. Bydd hyn yn lleihau traffig diangen ac yn helpu pobl i deithio mewn modd diogel a chynaliadwy.
Beth ydi Teithio Llesol?
Mae Teithio Llesol yn golygu teithio o gwmpas bob dydd ar droed, ar feic neu ar olwynion yn hytrach na defnyddio cludiant fel car neu fws. (Mae teithio ar olwynion yn cynnwys defnyddio sgwter symudedd neu gadair olwyn).
Mae’n fenter gan Lywodraeth Cymru i annog teithio iachach a lleihau tagfeydd traffig.
Mae Teithio Llesol yn cynnwys y daith i’r gwaith, i’r ysgol, i’r coleg, i’r siopau ac i gyfleusterau hamdden. Mae’n rhaid i lwybr Teithio Llesol gysylltu â’r mannau hyn a bod yn addas ar gyfer siwrneiau bob dydd. Nid yw teithio llesol yn cynnwys llwybrau a ddefnyddir er dibenion
Pwy sy’n ariannu hyn?
Rydym wedi derbyn cyllid grant gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith ymchwilio, dylunio ac ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer y prosiect hwn. Byddwn yn gwneud cais am gyllid ychwanegol ar gyfer adeiladu’r cynllun cyn bwrw ymlaen â’r gwaith.
Beth yw’r problemau?
Mae llif traffig yn ystod cyfnodau prysur yn uwch na’r hyn a argymhellir ar gyfer y cylchfan bychan 4 cangen hwn. Mae hyn yn golygu nad yw cerbydau’n gallu symud drwodd yn gyflym. Mae ein harolwg traffig yn awgrymu y bydd gor-gapasiti ar y cylchfan erbyn 2030.
Mae defnyddwyr ffordd wedi mynegi pryderon bod gwelededd isel ar gangen Ffordd Llandudno’r cylchfan o ganlyniad i ffiniau eiddo ar bob ochr i’r gyffordd. Mae’r llif traffig yn uwch na’r lefel a argymhellir ar gyfer croesfannau cerddwyr heb eu rheoli - sef y math a ddarperir o amgylch y gyffordd ar hyn o bryd.
Dros y 5 mlynedd diwethaf, roedd beicwyr yn gysylltiedig â 3 allan o 7 gwrthdrawiad traffig yn y gyffordd hon.
Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 yn dilyn Ffordd Llanrhos a Marine Road ac yn croesi’r gyffordd.
Ynglŷn â'r prosiect
Mae’r cynllun yn cynnig gwaith rhwng cyffordd Toll Bar a Choleg Llandrillo i’r de ddwyrain a thu hwnt i Ffordd Glanwydden i’r de orllewin heibio Ysgol y Creuddyn ac Ysgol Glanwydden.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru’n ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried cyfleoedd i wella cyfleusterau teithio llesol yn yr ardal wrth osod cyffordd newydd. Rydym yn cynnig disodli’r cylchfan bychan â chyffordd T a reolir â signalau. Bydd hyn yn gwella diogelwch pob defnyddiwr ac yn gwella cysylltiadau teithio llesol yn yr ardal.
Mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys:
- Gwaredu’r cylchfan bychan
- Creu cyffordd T
- Ychwanegu croesfannau a reolir â signalau ar gyfer cerddwyr a seiclwyr
- Gwneud Marine Road yn ffordd bengaead
- Lledu’r palmant er mwyn creu llwybr a rennir i gerddwyr a seiclwyr rhwng Coleg Llandrillo a Marine Road
- Ail-leoli’r orsaf fysiau tua’r dwyrain ger Coleg Llandrillo
- Gwella llwybrau cerdded ar Ffordd Llanrhos
- Culhau cyffordd Ffordd Llanrhos a Lôn Derwen ac ychwanegu croesfan wedi’i chodi
- Arwyddion newydd
Cylchfan fach
Mae 2 ddewis ar gyfer y gylchfan fach.
Dewis 1
Rydym yn bwriadu gwaredu’r cylchfan bychan a’i ddisodli â chyffordd T a reolir â signalau i gysylltu Ffordd Llandudno a Ffordd Llanrhos.
Byddem yn gwneud Marine Road yn ffordd bengaead heb allanfa ar gyfer ceir i Ffordd Llandudno. Byddem yn ychwanegu arwyddion ffordd ‘dim traffig drwodd’ ar Marine Road. Byddai mynediad rhwng y ddwy ffordd ar gyfer cerddwyr, defnyddwyr sgwter symudol a seiclwyr.
Byddem yn ychwanegu croesfannau a reolir â signalau ar bob cangen o’r gyffordd, a fyddai’n fwy diogel i gerddwyr a seiclwyr.
Y cynllun ffordd newydd arfaethedig

Dewis 2
Byddwn yn cadw cynllun cyffredinol y gylchfan fach ac yn ychwanegu croesfannau a reolir gan signalau ar bob mynedfa / allanfa.
Ychwanegid llwybrau cyd-ddefnyddio ar hyd pob ochr i’r gylchfan fach gyda mannau mynediad ychwanegol i feiciau.
Llwybr i Goleg Llandrillo
Rydym yn cynnig llwybr a rennir ar gyfer cerddwyr a seiclwyr o’r gyffordd i Goleg Llandrillo.
Byddai’r llwybr yn 3.5 o led ac yn rhedeg ar hyd ochr ogleddol Ffordd Llandudno, gan gysylltu â chroesfannau a reolir â signalau cyffordd Toll Bar a’r mynediad at Marine Road.
Byddai’r llwybr a rennir arfaethedig yn annog pobl i gerdded a seiclo i Goleg Llandrillo a gellid ei ymestyn yn y dyfodol.
Llwybr i’r ysgolion
Byddai’r llwybr a rennir wedi’i gyfyngu i adran ar ochr de ddwyreiniol cyffordd Toll Bar. Byddai hyn yn galluogi beicwyr o Ffordd Llandudno yn y dwyrain neu’r groesfan yn y gogledd i ymuno â Ffordd Llanrhos 40m i’r ffwrdd o’r gyffordd lle mae llai o draffig ar y ffordd.
Rydym yn cynnig ychwanegu croesfan rhwng palmentydd ar bob ochr i Ffordd Llanrhos ger Hartsville Avenue a lledu’r palmant presennol i’r gogledd o Lôn Derwen. Byddai’r gwelliannau hyn i gyfleusterau cerddwyr o fewn y tir sydd ar gael ar y briffordd.
Mae’r gyffordd bresennol ar Lôn Derwen yn oddeutu 30m o led, sy’n annog gyrwyr i ymddwyn yn beryglus a’i gwneud hi’n anodd i gerddwyr groesi’r ffordd. Rydym yn cynnig lleihau maint y gyffordd a chodi’r groesfan ar Lôn Derwen er mwyn lleddfu’r traffig. Byddem yn ychwanegu llwybr newydd 2m o led fel llwybr mwy uniongyrchol i gerddwyr.

Rydym yn cynnig lledu’r llwybrau presennol lle bo modd a gosod cyrbau i wahaniaethu rhwng y llwybr i gerddwyr a’r ffordd. Mae’r llwybr presennol yn dod i ben yn y gyffordd â Ffordd Glanwydden. Byddwn yn disodli’r croesfannau presennol gydag un groesfan o’r llwybr i Ffordd Glanwydden.
Heibio’r gyffordd â Ffordd Glanwydden, byddem yn adolygu’r arwyddion a’r marciau ffordd presennol. Byddem yn ychwanegu arwyddion a nodweddion pyrth i amlygu’r uchafswm cyflymder o Gloddaeth Lane.

Dweud eich dweud
Dyma gyfle i chi ddweud eich dweud a rhannu eich barn gyda ni am y cynigion ar gyfer Bae Penrhyn.
Sesiwn galw heibio i’r cyhoedd: dydd Llun 27 Hydref, 1pm - 7pm
Llyfrgell Bae Penrhyn,
Llandudno Road,
Bae Penrhyn,
LL30 3HN
Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 6 Tachwedd 2025.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn ystyried a dadansoddi’r holl adborth a gawn i’r ymgynghoriad hwn yn ofalus wrth i ni wneud cynllun terfynol. Yna, byddwn yn gwneud cais am fwy o gyllid yn 2025/26 i ymgymryd â gwaith adeiladu. Gallai’r llwybr newydd gael ei adeiladu a bod yn barod i’w ddefnyddio yn 2026.
- Dewisiadau hygyrch:
- Gallwn ddarparu’r testun eglurhaol ar ffurf PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad clywedol neu braille.
- Gallwn hefyd ddisgrifio’r llwybr ar lafar dros y ffôn. Mae gennym swyddog sy’n siarad Cymraeg a swyddog sy’n siarad Saesneg ar gael.
- Gall preswylwyr ffonio Tîm Cynghori AFfCh ar 01492 575337 i siarad gyda swyddog. Os nad oes swyddog ar gael, byddwn yn cymryd eu manylion ac yn trefnu bod rhywun yn eu ffonio’n ôl.