Pam ydych yn cynnig y newidiadau hyn?
Rydym yn cynnig y newidiadau hyn i wella diogelwch a chysylltiadau teithio llesol yn ogystal â gwella perfformiad y briffordd i fodurwyr.
Rwy’n byw ar Marine Road – sut ydw i’n cyrraedd yr A470/ y coleg/ Llandrillo-yn-Rhos?
Mae llwybrau amgen i gerbydau tuag at yr A470, y coleg a Llandrillo-yn-Rhos drwy Ffordd Glan y Môr. Bydd gwell mynediad i gerddwyr o Marine Drive tuag at y coleg a’r ysgolion.
Sut fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar draffig y strydoedd cyfagos os bydd Marine Road ar gau i draffig trwodd?
Os bydd Marine Road ar gau i draffig bydd yn dod yn ffordd bengaead, gan leihau traffig a gwella diogelwch. Bydd asesiad yn cael ei wneud ar yr effaith ar ffyrdd cyfagos yn ystod cam nesaf y dyluniad manwl.
A fyddai hyn yn gwneud Ffordd Llandudno a chylchfan Penrhyn Hill yn llawer prysurach ac yn fwy peryglus?
Na – Bydd yn lleihau tagfeydd ac mae wedi’i ddylunio i wella diogelwch gan hefyd ddarparu cysylltiadau teithio llesol.
I ble fydd yr arhosfan bws yn symud?
Bydd yr arhosfan bws yn cael ei symud i ardal fwy diogel dim ond ychydig fetrau o’r lleoliad presennol.
Pa mor hir fydd y prosiect hwn yn ei gymryd?
Rydym yn bwriadu sicrhau cyllid a dechrau gweithio ar y cynllun yn 2026/2027.
A fydd hyn yn effeithio ar draffig ysgol/y coleg?
Mae’r cynllun yn cynnig gwell cysylltiadau teithio llesol a all leihau traffig ffordd yn ystod yr oriau prysuraf o gwmpas amseroedd ysgol.